大象传媒

Safle Ambiwlans Awyr Caernarfon 'yn hollol hanfodol'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans awyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu i drafod dyfodol safle Ambiwlans Awyr Cymru ger Caernarfon.

Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai'r ganolfan yn Ninas Dinlle gau, ynghyd 芒'r gwasanaeth o'r Trallwng, a chael ei ganoli mewn man arall.

Fore Sadwrn bu cyfarfod ym Maes Awyr Caernarfon rhwng ymgyrchwyr a gwleidyddion sy'n cynrychioli seddi yn y gogledd orllewin.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru'n dweud y gallai ad-drefnu'r gwasanaeth olygu cyrraedd dros 500 o achosion ychwanegol y flwyddyn.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud.

'Safle hollol hanfodol'

Ar 么l y cyfarfod fore Sadwrn dywedodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen: "Dwi wedi bod yn siarad efo nifer o drigolion dros yr wythnos ddiwethaf.

"Maen nhw i gyd yn hynod o siomedig ac yn wrthwynebol iawn i hyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynghorydd Llio Elenid Owen

"Mae'r safle yma yn hollol hanfodol mewn lle mor wledig. Mae hyn yn mynd yn bellach na Gwynedd, mae'n mynd i effeithio Powys.

"'Dan ni'n mynd i drefnu cyfarfod cyhoeddus i'r cyhoedd gael rhoi eu barn ac i amlygu sut mae pobl yn teimlo am hyn."

'Amser hedfan hirach

Un o'r rhai fydd yn ymgyrchu i gadw'r gwasanaeth yng Nghaernarfon ydy Alan Hughes oedd yn y cyfarfod fore Sadwrn.

Mae o'n credu y bydd symud yr hofrenyddion o Ddinas Dinlle yn golygu y bydd pobl yn gorfod "aros llawer gwaith hirach".

"Os, fel 'dan ni'n meddwl, bod hi'n mynd i Ruddlan, mae'r amser hedfan o Ruddlan i Ben Llyn yn mynd i fod lot hirach.

"Mae pobl yn mynd i ddisgwyl lot hirach a mae bywydau yn mynd i fod fwy yn y fantol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alan Hughes yn gwrthwynebu symud y gwasanaeth o Ddinas Dinlle, ger Caernarfon

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi y bydd eu caffi ym Maes Awyr Caernarfon yn cau ac yn symud i ganol tref Caernarfon.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi derbyn gwaith ymchwil gan un o gyrff y GIG yng Nghymru, y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), sy'n awgrymu y gallai ad-drefnu'r gwasanaeth olygu y gallan nhw gyrraedd 583 o achosion ychwanegol y flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae nhw'n medru cyrraedd 72% o'r galwadau, ond y gallai hynny godi i 88%.

Mae'r elusen yn ystyried symud y gwasanaeth o'r Trallwng a'i leoli gyda gwasanaeth y gogledd.

Mae nhw'n dweud y bod yr union leoliad yn dal yn destun gwaith ymchwil.

Byddai'r newid hefyd yn ymestyn oriau'r gwasanaeth, yn 么l yr elusen.

'Mynd 芒'n staff meddygol at y cleifion'

Dywed Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae ein ffocws wedi newid o fynd 芒'r cleifion i'r ysbyty agosaf i fynd 芒'n staff meddygol at y cleifion. Rydym yn gweithio ar y ffyrdd yn ogystal ag yn yr awyr.

"Mae hyn yn hanfodol pan na all yr hofrenyddion hedfan am resymau technegol neu pan mae'r tywydd yn wael.

"Oherwydd ein lleoliadau presennol, dydy ein cleifion yn y gogledd a'r canolbarth ddim yn elwa o'r gwasanaeth amgen yma oherwydd cysylltiadau ffyrdd gwael - yn wahanol i drigolion de Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae AS Arfon, Sian Gwenllian yn dadlau bod 'angen gwasanaethu Cymru gyfan'

Yn 么l AS Arfon, Sian Gwenllian mae angen rhagor o "dryloywder".

"Dwi ddim wedi gweld y data cyflawn eto a dwi'n meddwl bod isio gofyn cwestiynau am y data. Mae angen gweld be' yn union ydy sail y wybodaeth yna.

"Ond ar ddiwedd y dydd, gwasanaeth sydd wedi ei greu ar gyfer ardaloedd gwledig sydd i'r de ac i'r dwyrain o fan hyn ydy pwrpas y gwasanaeth awyr.

"Mae o wedi bod mor werthfawr ym mywydau cymaint o bobl ar hyd y blynyddoedd.

"Mae isio edrych ar y data, oes. Ond mae isio edrych ar resymeg symud gwasanaeth o'r ardal yma ac mae o'n teimlo unwaith eto fel enghraifft o symud gwasanaeth allan o'r ardal yma er mwyn gwasanaethau'r dwyrain. Mae angen gwasanaethu Cymru gyfan."

Pynciau cysylltiedig