大象传媒

Euro 2024: Cymru'n herio Croatia, Armenia, Twrci a Latfia

  • Cyhoeddwyd
Euro 2024Ffynhonnell y llun, Uefa

Bydd Cymru yn chwarae yn yr un gr诺p 芒 Chroatia, Armenia, Twrci a Latfia - Gr诺p D - yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Euro 2024.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol y gystadleuaeth mewn digwyddiad yn Frankfurt ddydd Sul.

Cafodd 53 t卯m eu gosod yn un o 10 gr诺p - saith gr诺p o bum t卯m a thri gr诺p o chwe th卯m.

Fe fydd y ddau d卯m uchaf ymhob gr诺p yn cymryd yr 20 lle cyntaf yn y rowndiau terfynol, sy'n cael eu cynnal yn 10 o ddinasoedd Yr Almaen.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Wales 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Wales 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Bydd gemau cyntaf y rowndiau rhagbrofol yn cael ei cynnal ar 23 Mawrth a'r rhai olaf ar 21 Tachwedd 2023.

Fel y wlad sy'n llwyfannu'r twrnamaint, mae'r Almaen yn cael lle awtomatig, tra bydd tri th卯m yn sicrhau eu llefydd yn y rowndiau terfynol trwy gemau ail-gyfle Cynghrair y Cenhedloedd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gyrhaeddodd Cymru ail rownd Euro 2020 dan yr hyfforddwr Robert Page

Manylion llawn y grwpiau

Gr诺p A: Sbaen, Yr Alban, Norwy, Georgia, Cyprus

Gr诺p B: Yr Iseldiroedd, Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Groeg, Gibraltar

Gr诺p C: Yr Eidal, Lloegr, Wcr谩in, Gogledd Macedonia, Malta

Gr诺p D: Croatia, Cymru, Armenia, Twrci, Latfia

Gr诺p E: Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec, Albania, Ynysoedd y Ffaro Islands, Moldofa

Gr诺p F: Gwlad Belg, Awstria, Sweden, Azerbaijan, Estonia

Gr诺p G: Hwngari, Serbia, Montenegro, Bwlgaria, Lithiwania

Gr诺p H: Denmarc, Y Ffindir, Slofenia, Kazakhstan, Gogledd Iwerddon, San Marino

Gr诺p I: Y Swistir, Israel, Romania, Kosovo, Belarws, Andorra

Gr诺p J: Portiwgal, Bosnia a Herzegovina, Gwlad yr Ia, Luxembourg, Slofakia, Liechtenstein