大象传媒

'Newid bywyd drwy fyw ar ynni adnewyddadwy'

  • Cyhoeddwyd
Mike Kirwin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mike Kirwin

"Pan ti'n dechrau gwerthfawrogi o ble mae ynni'n dod a ti'n byw ar ynni adnewyddadwy, mae'n newid dy fywyd. Ti'n dechrau byw yn fwy tymhorol, ti'n defnyddio mwy o ynni pan ti'n cynhyrchu ynni a ti'n gwybod i gynilo ynni pan nad oes llawer yn cael ei gynhyrchu. Mae'n sicr yn newid dy fywyd er gwell."

Dyma brofiad Mike Kirwin o Ryd-y-Main yng Ngwynedd sy' wedi bod yn byw off-grid ers 2014 drwy ddefnyddio cynllun microhydro a phaneli solar PV yngh欧d 芒 banc bateri.

Meddai Mike: "Rydyn ni'n byw'n hollol off-grid heblaw bod ni'n defnyddio LPG ar gyfer coginio.

"Beth sy'n ddiddorol, serch hynny, yw hyn - er nad yw pobl fel ni sy'n byw gyda'u cyflenwadau ynni eu hunain yn cael eu heffeithio cymaint gan filiau ynni, ni dal yn cael ein heffeithio oherwydd bod popeth arall yn cael ei wneud gan ynni.

"Felly mae'n effeithio arno ni gan fod pris popeth wedi codi."

Sicrwydd ynni

"Mae gyda ni elfen o sicrwydd ynni tra fod pobl yn wynebu toriadau p诺er y gaeaf hwn. Mae'r argyfwng ynni a'r argyfwng costau byw wedi bod ar y ffordd ers amser hir ac mae'n anodd gweld sut ydyn ni'n mynd i ddod allan o'r sefyllfa 'ma.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Paneli solar ar dir Mike

"Dydw i ddim wir wedi meddwl faint rydyn ni'n arbed ar filiau gan fod popeth chi'n brynu yn gysylltiedig ag ynni felly mae pris popeth wedi codi. Mae 'na arbediad sylweddol ar ein biliau ynni ond dyw e ddim yn rhywbeth ni'n meddwl amdano rhyw lawer."

Gwaith adnewyddu

Pan symudodd Mike a'i bartner i Gymru dechreuodd y ddau adnewyddu hen d欧 yng nghefn gwlad heb unrhyw wasanaethau o gwbl - dim trydan, d诺r, nwy na ff么n. Y cam cyntaf oedd gofyn i gwmni ynni i gynnig pris am gysylltu'r t欧 i'r grid lleol.

Roedd y gost yn 拢60,000 felly dechreuodd Mike edrych ar opsiynau eraill: "Mae'r Afon Mynach yn rhedeg heibio'n t欧 ni felly siaradais gyda cwpl o'r tirfeddianwyr lleol oedd yn gefnogol iawn i ni'n datblygu cynllun trydan microhydro.

"Gymerodd hi dros dair blynedd i ni gael caniat芒d i ddargyfeirio'r d诺r o'r nant 350medr i ffwrdd i dyrbin er mwyn gwneud i'r tyrbin droi.

"Mae 100% o'r d诺r yn mynd yn syth yn 么l i'r afon - ond roedd y broses i gael caniat芒d yn ofnadwy, un o brofiadau gwaethaf fy mywyd.

"Mae mynediad at adnoddau lleol yn allweddol ar gyfer cynllun hydro. Mae'r cynllun hwn ar gyfer un cartref yn unig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

System hydro Mike

Potensial

"Ond mae yna ddigonedd o botensial arall yng Nghymru i ddatblygu hydro ar gyfer cymunedau a phentrefi a threfi.

"Ger Afon Ogwen mae'r gymuned yn Bethesda wedi gweithio gydag Ynni Lleol a nawr mae ganddyn nhw gynllun sy'n darparu ynni ar gyfer 150 o dai.

"Felly mae llawer mwy o botensial yng Nghymru i wneud y math hwn o beth."

Ar 么l datblygu'r adnodd hydro yn ei gartref ei hun aeth Mike ymlaen i fod yn ran o gr诺p ymgynghorol am b诺er hydro ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd: "Roedd y broses caniat芒d yn gymhleth achos roedden nhw'n trin pawb yn yr un ffordd - boed yn fach neu'n fawr. Mae'r canllawiau'n haws nawr ar gyfer projectau bach. Dwi ddim yn meddwl fyddai'n siwrne tair mlynedd a hanner i rhywun erbyn hyn."

Unwaith i'r p芒r gael caniat芒d ac adeiladu y system microhydro, roedd ganddynt drydan yn eu cartref am y tro cyntaf.

Ond roedd yr haf nesaf yn un sych iawn a dyma'r system hydro yn methu dros dro.

Paneli solar

Felly cam nesaf y gwaith adnewyddu oedd gosod paneli solar, sy'n gweithio'n dda gyda'r system hydro yn 么l Mike.

Felly beth yw ei gyngor i unrhyw un sy'n ystyried byw'n hunan-gynhaliol o ran ynni?

Meddai Mike: "Y peth cyntaf i feddwl amdano yw sut i beidio defnyddio ynni. Mae angen i unrhyw un sy'n wynebu project ynni adnewyddadwy ddechrau gyda sut i leihau faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio.

"Felly byddai inswleiddio yn un o'r pethau cyntaf i edrych arno ac hefyd goleuadau LED - a byddech yn cyflwyno'r holl fesurau cynilo ynni hyn yn gyntaf cyn cynhyrchu unrhyw ynni o gwbl.

"Dim ond ar 么l gwneud hynny byddech chi'n edrych ar ddefnyddio ynni adnewyddadwy.

"Efallai fod hwn yn gynllun ar gyfer y dyfodol. Mae angen i ni fwy mewn cysylltiad 芒 natur a thymhorau."

Cyngor Mike Kirwin - sut i arbed ynni a bod yn fwy hunan-gynhaliol o ran ynni

  • Dallineb ynni - mae lot o bobl wedi dechrau colli eu dallineb ynni erbyn hyn ond rhan o'r broblem yw fod hi mor hawdd i roi switsh ymlaen a chael ynni heb feddwl o ble mae'n dod.

  • Lleihau faint o ynni chi'n ddefnyddio ac inswleiddio eich cartref. Os ydy pobl yn adeiladu neu'n adnewyddu dyna gyfle da i gyflwyno ffyrdd o gynilo ynni.

  • Ac mae cynilo ynni yn ymwneud ag adnoddau lleol. Os oes gennych do sy'n wynebu i'r de ac heb goed neu adeiladau sy'n ei gysgodi o'r haul, mae'n lle perffaith ar gyfer paneli solar.

  • Os oes gennych fynediad i afon neu nant fach - neu os oes gan gymuned fynediad i afon fawr, mae potensial ar gyfer cynllun hydro. Mae 'na gynlluniau cymunedol sy'n adeiladau tyrbinau gwynt. Mae grwpiau cymunedol sy'n gallu helpu cymuned i ddatblygu prosiect fel Ynni Lleol.

Pynciau cysylltiedig