AS Ceidwadol yn galw ar Liz Truss i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn galw arni i ymddiswyddo.
Fe wnaeth AS Pen-y-bont ar Ogwr, Jamie Wallis, gyhuddo Liz Truss o "wallau sylfaenol iawn y gellir eu hosgoi" yn sgil cyllideb fach y llywodraeth a'r penderfyniad i ddiswyddo'r Canghellor Kwasi Kwarteng.
Yn annisgwyl ben bore Llun fe gyhoeddwyd y bydd y Canghellor newydd, Jeremy Hunt yn cyflwyno ei gynlluniau ariannol ar gyfer y wlad yn ystod y dydd, bythefnos yn gynt na'r disgwyl, yn y gobaith o sicrhau'r marchnadoedd ariannol.
Daeth galwad Mr Wallis oriau wedi ymddiheuriad gan is-weinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies, am yr effaith mae cyllideb fechan Llywodraeth y DU wedi'i gael ar bobl gyffredin.
Dywedodd AS Ceidwadol Mynwy fod rhai o ASau eraill y blaid wedi tanseilio'r arweinyddiaeth, a bod hynny wedi ychwanegu at y "teimlad o ansefydlogrwydd".
Galwodd am undod ymysg ASau Ceidwadol er mwyn "symud ymlaen".
Llythyr i'r Prif Weinidog
Yn y llythyr , dywedodd Mr Wallis ei bod wedi "tanseilio hygrededd economaidd Prydain ac wedi torri asgwrn ein plaid yn anadferadwy".
Bellach y trydydd AS Ceidwadol sydd wedi galw'n gyhoeddus ar Ms Truss i ymddiswyddo, ychwanegodd: "Gall camgymeriadau gael eu dadwneud, ac fel un t卯m unedig rwy'n credu y gallwn gyflawni bron unrhyw beth.
"Fodd bynnag, tra mai chi yw'r arweinydd, nid wyf yn credu bod hyn yn bosibl mwyach."
Bu i Liz Truss a'r Canghellor newydd, Jeremy Hunt, gynnal trafodaethau ddydd Sul wrth i'r llywodraeth geisio achub ei hygrededd ar yr economi.
Cafodd y cyn-Ganhellor Kwasi Kwarteng ei ddiswyddo ddydd Gwener.
Dywedodd David TC Davies ar raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales fod y problemau wedi dechrau am fod y llywodraeth wedi ceisio canfod ffordd i roi cymorth i'r cyhoedd gyda'u biliau ynni.
"Rwy'n ymddiheuro am yr holl broblemau mae hynny wedi'i achosi," meddai.
"Rwy'n deall fod teimlad o ansefydlogrwydd ar y funud a bod pobl yn nerfus - rwy'n deall hynny'n iawn.
"Mae'r canghellor wedi mynd, yn rhannol oherwydd y mini budget, ac mae angen i ni newid ambell beth er mwyn gallu parhau."
'Taflu mwd ddim yn helpu'
Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn teimlo mai'r unig ffordd o symud ymlaen yw i'r Ceidwadwyr gefnogi Ms Truss a'i llywodraeth.
"Fy neges i ASau Ceidwadol eraill ydy, gadewch i ni symud ymlaen a gwneud ein gwaith," meddai.
"Ry'n ni eisiau economi sefydlog a ry'n ni eisiau gwneud y peth iawn i bobl a busnesau'r wlad.
"Dydw i ddim yn meddwl fod taflu mwd yn helpu o gwbl."
Dywedodd y dylai'r ASau Ceidwadol sy'n galw ar Ms Truss i fynd "jyst derbyn ein bod ni mewn sefyllfa anodd iawn".
Yn cyfeirio 'n么l at y ras arweinyddiaeth rhwng Ms Truss a Rishi Sunak, dywedodd Mr Davies fod "nifer fach o ASau sydd weithiau ddim yn gallu derbyn eu bod nhw wedi colli'r ddadl".
"Dydw i ddim wastad wedi rhoi fy nghefnogaeth i'r rheiny a ddaeth yn arweinwyr y blaid Geidwadol.
"Ond rydw i'n Geidwadwr, yn credu mewn gwerthoedd Ceidwadol, ac felly pwy bynnag ydy'r arweinydd rydw i am eu cefnogi nhw."
'Dechrau gwael'
Ar 大象传媒 Politics Wales yn ddiweddarach dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod "yr wythnosau nesaf am fod yn allweddol" i Ms Truss ar 么l "dechrau gwael".
"Yr her sydd o'n blaenau yw ein cael ni trwy aeaf anodd iawn, mynd i'r afael 芒 chostau ynni uchel, ac yna canolbwyntio ar amddiffyn pobl - yn enwedig rheiny sydd ar y cyflogau isaf," meddai.
"Tu hwnt i hynny, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd am sut ry'n ni'n rheoli ein cyllidebau fel gwlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022