Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Martyn Croydon
Y tiwtor Cymraeg, Martyn Croydon sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma. Mae Martyn, sy'n dod o Kidderminster yn wreiddiol, yn gweithio i Brifysgol Bangor fel tiwtor a thiwtor-drefnydd ar draws ardal Dwyfor. Mae'n byw ym Mhen Ll欧n ers 14 mlynedd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dw i ddim yn meddwl mod i'n medru dweud be' ydy fy atgof cynta'. Mae gen i ddigon o atgofion o fod yn blentyn, ond s'gen i ddim syniad pa un ydy'r cynta'!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ll欧n. Mae'n anodd deud yn union lle yn Ll欧n gan mod i'n hoff iawn o gymaint o'r traethau, bryniau a llwybrau. I mi, mae gan Ll欧n ysbryd unigryw sy' wedi fy nenu yma a sy' ddim yn mynd i adael i mi ddianc chwaith!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae'n debyg basai rhaid i mi ddeud y noson wnes i ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn draw yn Ninbych yn 2013. Dw i wir ddim yn cofio be' o'n i'n ddisgwyl pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, ond yn bendant dim derbyn ffasiwn wobr oedd o! Roedd y seremoni'n wych ac roedd hi'n hyfryd bod yno efo cymaint o bobl oedd wedi fy helpu ar hyd y daith. Do'n i byth yn meddwl baswn i'n ennill chwaith, roedd hynny'n bonws arbennig ar ben bob dim arall dw i wedi'i gael o ddysgu Cymraeg.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Trefnus, penderfynol, meddwl-agored.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?
Fel tiwtor Cymraeg, mae cywiro iaith (yn sensitif!) yn rhan o fy ngwaith bob dydd, ac un peth sy'n achosi dipyn o drafferth wrth gwrs ydy deud yes/no. Felly roedd hi'n teimlo'n hollol naturiol ar y pryd i gywiro Eluned pan ddudodd hi 'ia' i'r cwestiwn 'wnei di fy mhriodi i' ar ben Garn Fadryn! Yn ffodus wnaeth hi weld ochr ddoniol y peth a 'dan ni'n dal i wenu r诺an wrth feddwl yn 么l am y peth!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dw i'n licio goleuadau Nadolig, wedi neud erioed ac yn mwynhau addurno'r t欧 bob blwyddyn. Mae'r cymdogion yn neud yr un fath hefyd felly mae'n dipyn o sioe i bobl wrth basio. Mae hi wedi mynd yn draddodiad i ni gael countdown bach i'w goleuo hefyd, efo fi fel arfer yn rhedeg o gwmpas y t欧 yn rhoi'r goleuadau ymlaen fesul plyg. Cwpl o flynyddoedd yn 么l mi brynes i system sy'n gweithio ar y wi-fi a sy'n medru rheoli'r socedi i gyd o ap ar y ff么n. Roedd criw ohonon ni wedi hel yn y l么n i weld y foment fawr, ac ar 么l cyfri i lawr, digwyddodd ddim byd! Y cwbl clywon ni oedd Rhys (oedd tua 2 oed ar y pryd) yn deud 'o diar'!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Yn eitha' diweddar a deud y gwir, ar enedigaeth ein hail fab.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Er fy mod i'n deud fy mod i'n berson taclus, dw i ddim yn dda iawn am gadw fy swyddfa'n daclus! Dw i'n ofnadwy am gadw pethau 'jyst rhag ofn'!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dw i ddim yn un da iawn am ddarllen llyfrau, gwylio ffilmiau na wrando ar bodlediadau. Fedra i ddim aros yn llonydd yn ddigon hir!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Baswn i wrth fy modd yn cael sgwrs efo David Attenborough am ei waith cadwraeth dros y blynyddoedd a be' mae o'n feddwl am y dyfodol. Dw i'n poeni am be' dan ni'n neud i'n planed ni ond dw i hefyd yn teimlo mod i ddim yn gwybod digon am yr heriau dan ni'n wynebu. Basai cael sgwrs efo rhywun fel David Attenborough yn wych.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i ddiddordeb mewn hen glociau. Ro'n i'n arfer mynd i aros efo fy hen nain a hen daid pan o'n i'n blentyn ac yno dechreuodd y diddordeb yn y ddau hen gloc oedd gynnyn nhw, sy' bellach yma yn y t欧 efo ni. Yn 么l fy mam ro'n i'n medru deud yr amser pan o'n i'n dair a hanner!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Treulio'r diwrnod efo fy nheulu, yn mynd am dro ar y traeth, dringo i ben Garn Fadryn neu'r Eifl a mwynhau cwmni ein gilydd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Ll欧n, o ben Yr Eifl. Heb y lle yma, faswn i byth wedi dysgu Cymraeg, wedi ffeindio cariad, cael plant a swydd dw i wrth fy modd yn ei gwneud, i gyd trwy iaith y nefoedd - braint arbennig iawn.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Cwestiwn da, dw i'n hapus iawn bod yn fi fy hun rhaid i mi ddeud, ond basai'n brofiad diddorol bod yn brif weinidog am ddiwrnod (jyst er mwyn cael gweld sut beth ydy o gan mai dyna'r peth ola' baswn i'n licio neud go-iawn!).
Hefyd o ddiddordeb: