Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aros oriau am ambiwlans i'r mab wedi galwad 999
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cofnodi un o'u perfformiadau gwaethaf erioed o ran amseroedd aros ar gyfer y galwadau mwyaf difrifol.
Ym mis Medi, fe wnaeth y gwasanaeth ymateb i 50% o alwadau coch - lle mae perygl i fywyd - o fewn wyth munud.
Roedd hynny 0.7% yn is na'r mis blaenorol, 2.2% yn is na Medi 2021 ac yn sylweddol is na'r targed o 65%.
Roedd hyn er i'r gwasanaeth dderbyn 18.1% yn llai o alwadau y diwrnod, ar gyfartaledd, na'r mis diwethaf.
Ond, roedd cynnydd o ychydig dros 10% yn y galwadau mwyaf difrifol ym mis Medi, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.
Cafodd mam o Gaerdydd ei chynghori y byddai'n rhaid iddi aros wyth awr am ambiwlans ar 么l i'w mab ddioddef ataliad yn eu cartref.
Fe wnaeth Georgia Faith Johnson alw 999 pan aeth llygaid ei mab Tobias, 2, i gefn ei ben yn eu cartref nos Lun.
Dywedodd y gweithiwr 999 bod angen iddi fynd 芒 Tobias i'r ysbyty ar unwaith - gan y byddai'n rhaid aros wyth awr am ambiwlans.
Penderfynodd Ms Johnson yrru ei mab i'r ysbyty, ond o fewn munudau, roedd y ddau wedi eu dal mewn traffig.
"Pan 'nes i droi i edrych ar fy mab... roedd e'n llipa, a doedd dim lliw yn ei wefusau na'i wyneb," dywedodd.
"Roedd e'n ddifywyd."
'Erfyn am ambiwlans'
Ar 么l ffonio 999 eto, y cyngor oedd iddi fonitro anadl ei mab, ei rhoi i orwedd ar y llawr y tu allan i'r car, a gofyn i rywun ddod o hyd i ddiffibriliwr rhag ofn iddo ddioddef ataliad y galon.
Fe wnaeth ambell un gamu o'u ceir i helpu Ms Johnson a cheisio esbonio i'r gweithiwr 999 nad oedd modd dod o hyd i ddiffibriliwr.
"Ro'n i'n ofnus iawn, iawn. Roedd e'n brofiad trawmatig.
"Ro'n i'n crio ac yn erfyn arnyn nhw i anfon ambiwlans, a'r ateb oedd y byddai hi'n bump awr cyn iddyn nhw gyrraedd fy mab."
Ar 么l awr, fe wnaeth ambiwlans yn y traffig sylwi ar Ms Johnson a'i mab a mynd 芒 nhw ar frys i'r ysbyty: "Roedden nhw'n arbennig. Fe wnaethon nhw weithredu ar unwaith."
Fe ddywedodd Ms Johnson fod pobl Cymru a'r gwasanaeth ambiwlans yn haeddu gwell gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'n fy mrawychu a dweud y lleiaf nad oedd fy mhlentyn dyflwydd oed, difywyd yn ddigon i gael help ambiwlans, ac mae'r toriadau i'r GIG wir yn codi ofn arna i."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod yn ymddiheuro am brofiad Ms Johnson, a'u bod o dan bwysau aruthrol.
Fe ddywedodd llefarydd bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty yn effeithio ar eu gallu i gyrraedd pobl ar frys.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd modd rhoi sylw ar achosion unigol ond eu bod yn cydymdeimlo 芒'r teulu.
Fe wnaethon nhw ychwanegu bod cynllun wedi'i gyflwyno i wella amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans, a'u bod wedi buddsoddi mewn gofal brys.
Straen ar unedau brys
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae unedau brys ysbytai dan bwysau sylweddol hefyd.
Ym mis Medi, fe dreuliodd 67.8% o gleifion mewn unedau brys llai na phedair awr yno rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, trosglwyddo neu fynd adref.
Er bod hyn 0.7% yn uwch na'r mis blaenorol, mae'n llawer is na'r targed o 95% sydd erioed wedi ei gyrraedd.
Ym mis Medi, bu'n rhaid i 10,230 o bobl aros 12 awr neu fwy. Roedd y nifer 466 (4.4%) yn is na'r mis blaenorol, ond mae'r targed yn dweud na ddylai unrhyw un fod yn aros cyhyd.
Yn y cyfamser, mae rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu yng Nghymru wedi tyfu i record arall - mwy na thri chwarter miliwn o gleifion am y tro cyntaf.
Roedd hyn 0.9% yn uwch na'r mis blaenorol, a 61.9% yn uwch na Chwefror 2020 ar ddechrau'r pandemig.
Bu'n rhaid i 183,000聽aros dros flwyddyn, yn 么l ffigyrau Awst. Dyma'r ffigwr uchaf ar gofnod, er mae wedi bod yn gymharol sefydlog ers gwanwyn 2021.
Mae'r niferoedd sy'n aros yr hiraf - dros ddwy flynedd - yn gwella. Ond, roedd yn dal yn rhaid i 59,000 aros gymaint 芒 hynny.
Mae ffigyrau perfformiad canser yng Nghymru'n parhau i ostwng, gyda 52% o gleifion yn cael eu trin o fewn y targed o 62 diwrnod, o'i gymharu 芒 53.3% yn y mis blaenorol.
'Cynnydd yn digwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "cynnydd yn dal i gael ei wneud ar yr amseroedd aros hiraf".
"Mae miloedd o bobl yn dal i gael eu gweld a'u trin gan GIG Cymru a bu mwy na 338,000 o ymgynghoriadau ym mis Awst.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd ar y ffordd orau o'u cefnogi i gyrraedd ein targedau gofal wedi'i gynllunio.
"Mae llawer iawn o waith, ffocws, buddsoddiad a newid gwasanaethau ar y gweill i leihau nifer y bobl sy'n aros am driniaeth canser."
Ond fe ddywedon bod "staff gofal brys yn dal i fod dan straen dwys" a'u bod yn cydweithio gydag arweinwyr iechyd a gofal i "gefnogi gwelliannau".