大象传媒

Cau parc antur Oakwood yn Sir Benfro yn dilyn damwain

  • Cyhoeddwyd
OakwoodFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y parc antur ei gau brynhawn Sul yn dilyn damwain

Mae parc antur Oakwood yn Sir Benfro wedi cau yn dilyn damwain.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r parc brynhawn Sul yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar un o'r reidiau.

Gwelodd ymwelwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn cludo claf o'r safle.

Fe gysylltodd un fenyw 芒 大象传媒 Cymru yn dweud fod y ddamwain ar reid Treetops yn un "ddifrifol".

Ychwanegodd fod claf wedi cael ei gludo gan ambiwlans awyr a'r parc wedi ei gau wrth i'r heddlu gyrraedd.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod yn gwneud ymholiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys.

'Pobl wedi eu dychryn'

Dywedodd Harriet Lloyd o Gaerfyrddin ei bod yn gwylio ei g诺r a'i mab pum oed ar yr un reid.

"Reid Treetops oedd hi, yr un sy'n addas ar gyfer plant bach. Y cyflymder uchaf yw tua 20-30mya.

"Roedden nhw [ei theulu] tua'r blaen. Dywedodd fy ng诺r eu bod wedi clywed pobl yn sgrechian tua'r cefn.

"Fe drodd o gwmpas a gweld merch tua 14 oed yn sgrechian 'stop'. Roedd dyn yn yr un cerbyd 芒 hi wedi ei daflu allan.

Ffynhonnell y llun, Lachlan/Coasterpedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd un fenyw oedd yno fod y ddamwain wedi digwydd ar reid Treetops

"Roedd hi'n edrych fel petai'r cerbydau olaf yn rhydd ac yn siglo, roedd e wedi cael ei daflu allan ac roedd teithwyr eraill yn dal y cerbyd gan ei fod wedi dod ychydig yn rhydd.

"Doedden nhw ddim mwy na thua chwe neu saith troedfedd oddi ar y llawr.

Dywedodd Ms Lloyd fod staff wedi dod i helpu gyda'r ambiwlans awyr yno hefyd tua phymtheg i ugain munud yn ddiweddarach.

"Roedd pobl yn edrych wedi eu dychryn," ychwanegodd.

"Fe arhosodd y parc ar agor am ryw awr, awr a hanner, yna fe ddywedon nhw wrth bawb i adael."