Canfod achos arall o ffliw adar yn ardal Amlwch, Ynys M么n
- Cyhoeddwyd
Mae'r ail achos o ffliw adar wedi ei gadarnhau ar Ynys M么n o fewn mis, yn dilyn sawl achos dros Gymru.
Cafodd yr haint - ffliw H5N1 - ei ganfod yn ardal Amlwch, yr ail safle ar yr ynys y mis hwn.
Daeth wrth i Gymru gyfan gael ei rhoi dan barth atal ffliw adar - sy'n golygu fod mesurau mewn grym i geisio atal lledaeniad.
Er bod y risg i bobl yn isel, mae'r llywodraeth yn dweud ei bod yn "hanfodol" bod pobl sy'n cadw dofednod yn wyliadwrus.
Eisoes yng Nghymru mae achosion o'r ffliw wedi eu canfod yn Sir Benfro ac yng Ngwynedd.
Yn dilyn yr achos diweddaraf ar Ynys M么n mae parth amddiffyn 3km a pharth arolygiaeth 10km mewn grym o amgylch y safle.
O fewn y parthau mae cyfyngiadau ar symud adar ac mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cadw dofednod roi gwybod i'r awdurdodau.
Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth: "Mae'n hanfodol bod pobl sy'n cadw adar yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddyn nhw'r mesurau bio-ddiogelwch cryfaf mewn grym."
Ychwanegodd y llywodraeth bod cyfrifoldeb ar bawb sy'n cadw adar i:
Fod yn wyliadwrus am arwyddion yr haint;
Gysylltu 芒 milfeddyg os yw eich adar yn s芒l;
Rhoi gwybod i'r awdurdodau os ydych yn amau bod ffliw adar ar eich safle;
Atal offer, nwyddau, dillad, cerbydau neu fwyd all fod wedi ei heintio rhag dod i'ch safle.
.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022