大象传媒

Llio Rhydderch, y delynores draddodiadol sy'n 'athrylith arallfydol'

  • Cyhoeddwyd
Llio yn ifancFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Llio ifanc wrth y delyn mewn het a gwisg Gymreig

"Nage cerddor traddodiadol yw Llio, cerddor newydd hi, yr avant garde yw hi."

Mae'n anodd cysylltu'r disgrifiad yna gan y cerddor Ceri Rhys Matthews o'r delynores Llio Rhydderch gyda'r lluniau ohoni'n ifanc yn chwarae'r delyn deires mewn gwisg draddodiadol ar lwyfan eisteddfod.

Ond mae rhaglen radio arbennig am Llio Rhydderch yn s么n amdani fel 'athrylith' sydd 芒 dawn i greu s诺n 'arallfydol' a 'hud a lledrith' ar dannau'r delyn draddodiadol.

Y darlun a gawn gan ei chyd-gerddorion a'i hedmygwyr yw o gerddor wedi ei thrwytho yn alawon gwerin Cymru sydd wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y seiliau traddodiadol.

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd

Cafodd ei dysgu i chwarae'r delyn gan 'frenhines y delyn deires', yr eiconig Nansi Richards, Telynores Maldwyn, oedd yn ymweld 芒 chartref y teulu ym Mangor yn gyson.

Amsugnodd y Llio ifanc y gerddoriaeth, y ceinciau a'r alawon a ddysgodd gan Nansi ac a glywodd gan ei rhieni cerddorol ar yr aelwyd nes eu bod yn rhan o'i DNA.

Ac o hynny, fe gyfansoddodd hi ei gweithiau ei hun nes ei bod hi bellach yn cario mantell y traddodiad yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llio a Nansi Richards sy'n sefyll wrth y delyn yn y llun yma o griw yn Eisteddfod yr Urdd

'Blodyn gwyllt'

Mae Ceri Rhys Matthews yn cofio y tro cyntaf iddi recordio albwm ar label Fflach Tradd yn 1997. Gydag anogaeth perchnogion y label, y diweddar Richard a Wyn Jones, cafodd Ceri rwydd hynt i recordio gyda Llio am y tro cyntaf.

"Oedd e fel helter skelter a bod yn onest achos doedd hi ddim yn gyfarwydd a recordio, na chwaith o'n i," meddai'r cerddor a'r cynhyrchydd sy'n aelod o'r band gwerin Fernhill.

"Dealles i'n syth taw blodyn gwyllt oedd ganddon ni fan hyn. Dyna'i gyd wnes i oedd cadw popeth arall draw," meddai wrth gofio'r s诺n arbennig roedd Llio Rhydderch yn ei greu drwy ei chyffyrddiad unigryw ar y tannau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llio (cyntaf ar y chwith) gyda Nansi Richards, Telynores Maldwyn (cyntaf ar y dde) ar daith olaf Nansi i America yn 1973. Yn y llun hefyd mae Edith Evans, Telynores Eryri (ail o'r dde).

Roedd cyfansoddiadau'r albym yn ddrych o'r alawon roedd hi'n eu chwarae ac a oedd ar ei chof ers pan fyddai Nansi Richards yn dod i'w th欧 ac yn cyfeilio i'w thad wrth iddo ganu penillion.

Y canlyniad oedd yr albwm Telyn, a oedd yn rhy "heriol" i gael yr ymateb roedd yn ei haeddu gan y cyfryngau yng Nghymru ar y pryd yn 么l Ceri Rhys Matthews.

"Mae unrhyw gelfyddyd newydd i fod i herio... a nage cerddor traddodiadol yw Llio, cerddor newydd hi, yr avant garde yw hi."

'O'r galon'

Ond tyfodd y gwerthfawrogiad ohoni. Cafodd ei chwarae ar Radio 1 gan y DJ Huw Stephens ac fe wnaeth ei hail albwm, Melangell, argraff fawr ar John Cale, gynt o'r Velvet Underground; defnyddiodd y prif drac yn ei ffilm ddylanwadol, Camgymeriad Gwych/Beautiful Mistake.

Cyflwynodd hyn ei cherddoriaeth i gynulleidfa newydd yn sin gerddorol Cymru, gan gynnwys y cynhyrchydd Dyl Mei a oedd yn aelod o'r band Genod Droog ac 芒 diddordeb mewn miwsig hip hop ar y pryd.

"Mae disgrifio chwarae Llio yn go rhyfedd i fi," meddai. "Yn amlwg mae'r sylfaen yn y byd traddodiadol ond mae'n amhosib rhoi Llio mewn unrhyw fath o focs - dwi'n meddwl oherwydd mae 'na jyst rywbeth gwahanol ac arallfydol i'r t么n a'r s诺n."

Meddai Rhys Mwyn amdani: "'Tasech chi'n trio diffinio Llio mae'n debyg mae'r gair fyddai 'athrylith'. Ond mae 'na rhywbeth dyfnach pan 'dach chi'n dod ar draws y cymeriadau yma 'dachi'n gwybod bod y creadigrwydd ar weledigaeth yn dod yn ddwfn, mae o o'r galon."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhaglen yn cynnwys lleisiau rhai o'r telynorion ifanc mae Llio Rhydderch wedi eu hyfforddi dros y blynyddoedd

Mae Llio wedi trosglwyddo ei crefft i nifer o delynwyr ifanc mae wedi eu hyfforddi dros y blynyddoedd gan eu dysgu, fel y cafodd hithau, yn y dull traddodiadol o wrando a dehongli yn hytrach na darllen cerddoriaeth ysgrifenedig.

Mae'r trwmpedwr jazz Tomos Williams yn cofio'r profiad o fyrfyfyrio gyda Llio ar gyfer yr albwm Carn Ingli, 2011, fel un hudol: "Oedd e'n brofiad hyfryd a wnaethon ni recordio fe mewn rhyw dridiau.

"Roedd fel yr hud ar Ddyfed fel oedd Llio yn hoffi dweud. Oedd na ryw hud yn yr ystafell am cwpl o oriau a wnaethon ni neud y mwyfrif o'r albym yn ystod yr oriau yna."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar y rhaglen mae Llio Rhydderch yn s么n am y teithio i gyngherddau a nosweithiau llawen dros y wlad lle magodd ei chrefft o oed ifanc

"Be sy'n hudol am gerddoriaeth Llio Rhydderch i mi," meddai Lleuwen a gydweithiodd efo hi ar ei halbwm Gwn Gl芒n Beibl Budr, "ydy'r ffordd mae hi'n byrfyfyrio achos tydi hi ddim yn swnio fel neb na dim arall dwi wedi eu clywed; mae'n swnio fel rhywbeth yn dod o'r dirgelwch..."

Mae cerddorion o'r tu allan i Gymru hefyd yn gweld Llio fel dolen arbennig yng nghadwyn traddodiad y telynorion Cymreig.

Yn eu mysg mae'r telynor Gwyddelig Derek Bell o'r Chieftains a'r Wyddeles Laoise Kelly a fu ar daith gyda hi yn 1999.

"Bob un nos roedd hi'n ein syfrdanu," meddai Laoise Kelly ar y rhaglen. "Gallech deimlo ei phwerau a gallech deimlo pwysau hanes drwy ei cherddoriaeth. Mae ei cherddoriaeth yn arallfydol - mae'n ysgafn ac eto'n gryf ac rydych yn gadael wedi eich cyfoethogi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llio ar y daith Harp and Soul gyda thelynorion o'r Iwerddon, yr Alban a Tsieina

Mae Llio ei hun, sy'n dal i gyfansoddi a chwarae, yn disgrifio ar y rhaglen sut mae'r alawon gwerin yn agos i'r wyneb yn ei chyfansoddiadau, fel ar ei thrydedd albwm, Enlli.

"Yn y trac cyntaf, Enlli, mae hon wedi ei seilio ar y g芒n werin Mwynen Merch - ond falle ei bod hi mae wedi ei chuddio. ond mae'n dilyn yr alaw yna reit drwyddi ond mae'n sefyll ar ben ei hun fel cyfansoddiad hefyd ond dwi'n gwybod bod yr alaw yn yn guddiedig."

Mae'r cerddor Carwyn Ellis o'r band Colorama yn edmygydd ac yn ffrind i Llio ac mae'n crynhoi'r parch sydd iddi gan gerddorion: "Mae rhywbeth unigryw iawn yn y ffordd mae hi'n gwneud misiwg. Mae hi'n un o'r bobl hudolus sy'n gallu stopio amser efo'i cherddoriaeth. Dwi'n teimlo rhywbeth dwfn iawn bob tro dwi'n clywed hi'n chwarae.

"Mae Llio yn drysor cenedaethol."

Mae Iaith Enaid ar Ei Thannau yn cael ei darlledu ar Radio Cymru ddydd Sul, 30 Hydref am 19.00ac yn cynnwys sgyrsiau gyda Llio Rhydderch am ei dylanwadau a'i cherddoriaeth gyda Gwenan Gibbard yn cyflwyno.

Hefyd gan y 大象传媒