Cwpan y Byd 2022: Dim angen profion PCR ar gefnogwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Ni fydd angen dangos prawf Covid-19 negyddol cyn cael mynediad i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf.
Fis Medi cyhoeddwyd y byddai angen talu am brawf PCR neu lif unffordd - a chael prawf negyddol - er mwyn cael mynediad i'r wlad.
Ond gan Weinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Qatar na fydd hyn bellach yn orfodol o 1 Tachwedd.
Bydd hyn yn effeithio ar y rheiny fydd yn cyrraedd y wlad ar gyfer y gystadleuaeth sy'n cychwyn ar 20 Tachwedd.
Gwnaed y tro pedol gan fod achosion Covid-19 "yn parhau i ostwng", gyda'r sefydliad iechyd yn cyfeirio hefyd at raglen frechu'r wlad.
'Gwneud bywyd yn haws'
Gydag anghenraid i gymryd y prawf PCR ddim mwy na 48 awr cyn hedfan i Qatar, neu brawf llif unffordd o fewn 24 awr cyn cyrraedd y wlad, byddai'r mesurau wedi golygu mwy o gost i gefnogwyr Cymru.
Ond mae'r awdurdodau yn Qatar yn parhau i ofyn i gefnogwyr gadw at y rheolau lleol a chymryd camau i leihau'r posibilrwydd o'r haint ledaenu, gan gynnwys sicrhau eu bod wedi derbyn eu brechlynnau o flaen llaw.
Un sy'n bwriadu hedfan allan i ddilyn Cymru yn Qatar ydy Gerwyn Jones o Gaerwen, Ynys M么n.
Ond gan ei fod yn aros yn Dubai a hedfan i Doha ar gyfer gemau Cymru, dywedodd ei fod eisoes wedi talu 拢75 am brofion sydd bellach ddim yn angenrheidiol.
Er hynny mae'n credu y bydd gollwng yr angen am brofion Covid-19 yn gwneud bywyd yn haws i'r cefnogwyr sy'n teithio allan.
"Yn amlwg dwi'm yn hapus o gwbl mod i wedi gorfod talu, r诺an fod hi'n amlwg fydd ddim eu hangen nhw wedi'r cwbl," meddai.
"Nes i benderfynu archebu'r profion rhag ofn bydda 'na fwy o streics post.
"Ond ar y llaw arall dwi'n hapus fod y rheolau wedi newid gan fod o'n gwneud bywyd gymaint haws a llai o stress i bawb yn y pen draw."
Bydd Cymru yn herio'r Unol Daleithiau, Iran a Lloegr yn ystod y gemau gr诺p yn Stadiwm Ahmed bin Ali yn Doha rhwng 21-29 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022