Adwaith yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Adwaith wedi cael eu cyhoeddi fel enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2022 mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Dyma'r ail waith i'r band Cymraeg ennill y wobr, yn dilyn eu llwyddiant gyda'u halbwm gyntaf - Melyn - yn 2019.
Penderfynodd y beirniaid mai ail albwm y band o Gaerfyrddin - Bato Mato - fyddai'n cipio'r wobr eleni, gan ennill y tlws a gwobr ariannol o 拢10,000.
Adwaith yw'r unig fand i ennill y wobr ddwywaith ers iddi gael ei sefydlu yn 2011.
Hefyd yn y seremoni cyhoeddwyd mai canwr The Alarm, Mike Peters yw enillydd y Wobr Ysbrydoliaeth am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymreig.
Roedd enwau mawr fel Cate Le Bon, Gwenno a'r Manic Street Preachers hefyd ar y rhestr fer o 15 artist ar gyfer y brif wobr eleni.
Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Gwenno, Georgia Ruth a Gruff Rhys.
Roedd y seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fercher yn cael ei gyflwyno gan y DJ 大象传媒 Radio 1, Sian Eleri.
Roedd y saith o feirniaid eleni yn cynnwys Matt Wilkinson o Apple Music, Sophie Williams o NME a'r newyddiadurwr Tegwen Bruce Deans.
Y rhestr fer yn llawn
Adwaith - Bato Mato
Art School Girlfriend - Is It Light Where You Are
Bryde - Still
Breichiau Hir - Hir Oes I'r Cof
Buzzard Buzzard Buzzard - Backhand Deals
Cate Le Bon - Pompeii
Carwyn Ellis, Rio 18 a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒 - Yn Rio
Dead Method - Future Femme
Danielle Lewis - Dreaming In Slow Motion
Don Leisure - Shaboo Strikes Back
Gwenno - Tresor
L E M F R E C K - The Pursuit
Manic Street Preachers - The Ultra Vivid Lament
Papur Wal - Amser Mynd Adra
Sywel Nyw - Deuddeg
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019