S4C yn troi'n 40: 'Mae'n bwysig cofio pob hanes'

Disgrifiad o'r llun, Y teulu Tudur - Non, Ethni, Gwilym a Megan - yn rhannu eu hatgofion a'u hargraffiadau presennol o S4C

Mae Ethni, sy'n chwech oed, yn medru enwi tomen o raglenni ar S4C mae hi'n eu hoffi.

Jen a Jim, Guto Gwningen, Sam Tân, Patrol Pawennau - dyma rai o'i ffefrynnau.

Tra bod ei thaid a'i mam-gu, Gwilym a Megan Tudur, yn gallu mwynhau cyd-wylio cartŵns - maen nhw hefyd yn cofio'r blynyddoedd o ymgyrchu caled am sianel Gymraeg.

Daw atgofion y teulu wrth i S4C droi'n 40 oed yr wythnos hon.

Disgrifiad o'r llun, Jen a Jim, Guto Gwningen, Sam Tân a Patrol Pawennau ydy rhai o raglenni gorau Ethni

Cynnig gan Gwilym yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth yn 1967 a sbardunodd yr ymgyrch gyntaf am rywbeth tebyg i S4C.

"Mi ddywedais i 'mod i'n meddwl ei bod hi'n bosib cael sianel arall, yn Gymraeg, ac roedd hyn cyn unrhyw sôn am bedwaredd sianel yn Lloegr," meddai.

"Ddaru'r pwyllgor basio polisi i gael deiseb, a hwnna oedd ymgyrch gyntaf y sianel.

"Mi gasglwyd 5,000 o enwau - o'n i'n meddwl bod hynny'n eitha' da'r adeg hynny - a'i chyflwyno hi mewn gorymdaith i'r ´óÏó´«Ã½ tua Calan Mai 1968."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Gwilym a Megan Tudur yn aelodau amlwg yn yr ymgyrch i gael sianel deledu Cymraeg

Daeth dim llawer o'r ddeiseb honno, meddai Gwilym, ond rhyw dair blynedd yn ddiweddarach daeth ymgyrchu dros ddarlledu Cymraeg yn flaenoriaeth.

"O 1971, '72 yn arbennig, '73, ac ymlaen yn y 70au, mi ymgyrchwyd o ddifri', a channoedd yn mynd i garchar," meddai.

"I ddechrau oedd y dringo mastiau… wedyn mi fuodd 'na lawer iawn o feddiannu stiwdios a 'stafelloedd teledu, a gwrthod talu treth teledu."

Diwrnod o garchar

Dyna'n union wnaeth Megan, gwraig Gwilym.

"[Fues i yn] Llys Aberaeron, ac mi roddodd yr ynad ddiwrnod o garchar i fi - roedd yn rhaid iddo wneud rhywbeth achos o'n i 'di torri'r gyfraith."

Fe wnaeth Megan dreulio'i diwrnod dan glo rhwng muriau'r llys ble'r oedd hi wedi cael ei dedfrydu.

"O'n i wedi bod yno'n y bore, so oedd yn rhaid i fi fod y p'nawn eto yn y llys.

"Bu'n rhaid i'r plismon fynd allan i 'nôl cinio i ni - dod â fish and chips o Aberaeron. Dyna dwi'n cofio fwyaf!"

Disgrifiad o'r llun, Dywed Non Tudur ei bod yn "bwysig rhoi stwff i bobl ifanc" am S4C

Yn ôl Non Tudur - merch Gwilym a Megan, a mam Ethni - roedd gwylio S4C yn "achlysur teuluol" yn y blynyddoedd cynnar wedi ei sefydlu yn 1982.

"Roedd pawb yn gwylio gyda'i gilydd," meddai, gan gofio am raglenni'r cyfnod, fel Teulu Ffôn.

Yn ddiweddarach, a hithau yn ei harddegau, roedd Non - sy'n ohebydd celfyddydau y cylchgrawn Golwg - yn gwylio rhaglenni fel Slac yn Dynn, oedd yn rhoi llwyfan i "actorion gwahanol, exciting".

"Dyna pam mae'n bwysig rhoi stwff i bobl ifanc, achos dwi'n cofio jyst caru'r pethau yna ar y pryd," meddai.

'I Gymdeithas yr Iaith mae'r diolch'

Oni bai am dro pedol dramatig, mae'n annhebygol y byddai plant yr 1980au wedi cael ystod eang o deledu Cymraeg i'w fwynhau.

Roedd y Ceidwadwyr wedi addo sefydlu'r sianel yn eu maniffesto yn 1979, ond cefnu ar y syniad wnaeth y blaid unwaith y daethon nhw i rym wedi etholiad cyffredinol y flwyddyn honno.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Gwilym Tudur ysgrifennu llyfr - Wyt Ti'n Cofio? - am ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith

Roedd 'na "siom fawr", yn ôl Gwilym Tudur, ond fe wnaeth bygythiad arweinydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, i lwgu hyd at farwolaeth, ysgogi newid ym mholisi'r llywodraeth.

"Roedd y Gymdeithas [yr Iaith] wedi ymgyrchu mor galed ag y medra' hi drwy'r 1970au," meddai Gwilym.

"Mae'n rhaid rhoi clod arbennig i Ffred Fransis dwi'n meddwl. Mae llawer iawn o bobl wedi mynd i garchar wrth gwrs, ond Ffred oedd arweinydd y grŵp darlledu.

"I mi, er bod yr Urdd, Merched y Wawr a mudiadau eraill, Plaid Cymru, wedi rhoi pwysau tu ôl i'r ymgyrch, i Gymdeithas yr Iaith mae'r diolch bod 'na sianel Gymraeg ar gael heddiw, a diolch i Gwynfor Evans, wrth gwrs."

Disgrifiad o'r llun, Llun o Gwilym Tudur, yn y blaen yn y llun uchaf, tu allan i Lys Aberteifi yn ei gyfrol Wyt Ti'n Cofio?

Beth am y dyfodol, felly?

Mae Gwilym yn dweud ei fod yn gwerthfawrogi arlwy S4C, yn enwedig o ystyried sefyllfa ariannol y sianel, ac mae'n credu y byddai datganoli darlledu o fudd i deledu Cymraeg.

Heddiw mae Gwilym a Megan, tra'n cofio'r holl ymgyrchu, yn gallu mwynhau pennod neu ddwy o Guto Gwningen gyda'u hwyres, Ethni.

"Mae'n bwysig cofio pob hanes, dylai dim byd fynd yn angof," meddai Megan.

"Ond i'r plant heddi, jyst y ffaith bod 'na sianel, bod 'na Gymraeg ar y teledu… doedd 'na ddim rhaglenni Cymraeg i ni eu gwylio."