Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad Covid: Addewid i 'ymdrin 芒'r holl faterion'
Bydd ymchwiliad cyhoeddus Covid y DU yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod yr holl faterion y mae pobl Cymru am gael sylw yn cael eu hymchwilio, meddai ei gadeirydd.
Gwnaeth y Farwnes Hallett yr addewid wrth iddo gael ei ddatgelu y bydd yr ymchwiliad yn cynnal gwrandawiadau cyhoeddus yng Nghymru yr hydref nesaf.
Dywedodd ei bod yn deall "cryfder teimladau" ar alwadau am ymchwiliad ar wah芒n i Gymru ond ei bod yn "hollol niwtral ar y cwestiwn".
Roedd y Farwnes Hallett yn siarad mewn gwrandawiad rhagarweiniol yn Llundain.
Wrth agor y sesiwn, i drafod yr adran o'r ymchwiliad a fydd yn ystyried sut i ymchwilio i benderfyniadau Cymreig yn ystod y pandemig, dywedodd: "Rwy'n gwybod bod galwadau wedi bod am ymchwiliad Cymreig ar wah芒n, ac rwy'n deall cryfder y teimlad hwnnw yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn gofyn am ymchwiliadau ar wah芒n.
"Nid yw'n benderfyniad i mi, ac rwy'n gwbl niwtral ar y cwestiwn, ond yr hyn y byddaf yn ei addo i chi yw os yw ymchwiliad i Gymru yn cael ei sefydlu y byddaf yn gweithio gyda nhw ac yn cydweithredu hyd eithaf fy ngallu i sicrhau ein bod rhyngom yn ymdrin 芒'r holl faterion y byddai pobl Cymru yn dymuno eu gweld yn cael sylw.
"Os na fydd ymchwiliad ar wah芒n yn cael ei sefydlu yna fe wnaf fy ngorau glas i sicrhau ein bod ni'n ymdrin eto 芒'r holl faterion y mae pobl Cymru yn dymuno eu gweld yn cael sylw."
Dywedodd y Farwnes Hallett, ar sail ymweliad ymgynghori 芒 Chaerdydd: "Rwy'n gwybod cryfder y teimlad sydd yna ar nifer o wahanol faterion oherwydd i mi eu clywed yn uniongyrchol gan aelodau o deuluoedd mewn profedigaeth."
Ychwanegodd Cwnsler yr ymchwiliad Tom Poole KC fod gan "bobl Cymru'r hawl i gael craffu llawn ar benderfyniadau allweddol Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig, a bod eu profiadau a'u lleisiau'n cael eu clywed a'u cynrychioli'n iawn".
"Dim ond fel hyn," meddai, "y gellir llunio argymhellion priodol ac effeithiol i amddiffyn Cymru'n well yn y dyfodol, rhag pandemigau ac argyfyngau sifil tebyg."
Wrth siarad ar ran Llywodraeth Cymru, addawodd Christian J Howells i'r ymchwiliad "y cydweithrediad llawnaf posib wrth ymchwilio i'r ymateb i'r heriau digynsail y mae pobl Cymru, eu cymunedau, eu busnesau a'u gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig".
Dywedodd Mr Howells mai'r ymchwiliad oedd "y ffordd orau o archwilio'r penderfyniadau cydgysylltiedig rhwng llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig yn iawn".
"Yn benodol, gall yr ymchwiliad hwn edrych ar sut y gwnaed penderfyniadau gwahanol gan bob un o'r pedair gwlad ar gyfer eu priod wledydd naill ai ar sail pedair gwlad neu ar wah芒n.
"Rydym wedi bod yn gyson yn ein penderfyniad bod ein gweithredoedd ni a gweithredoedd ein partneriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu craffu'n llawn ac yn briodol fel rhan o'r ymchwiliad hwn.
"Mae pobl Cymru yn haeddu dim llai, yn enwedig y rhai sydd wedi colli anwyliaid ond hefyd pawb arall yr effeithiwyd ar eu bywydau gan y pandemig dinistriol hwn."
Mae gr诺p Covid Bereaved Families for Justice Cymru, sydd wedi ymgyrchu am ymchwiliad ar wah芒n i'r modd y mae gweinidogion Cymru wedi delio 芒'r pandemig, wedi cael ei gydnabod fel "cyfranogwr craidd" yn ymchwiliad y DU, ochr yn ochr 芒 Llywodraeth Cymru ac asiantaethau allweddol eraill.