Heriau'r Hydref: Pwy mae Cymru'n wynebu?
- Cyhoeddwyd
Mae llai na blwyddyn i fynd tan Cwpan Rygbi'r Byd 2023, a dros y mis nesaf bydd Cymru'n chwarae yn erbyn timau o bedwar ban byd yng Nghyfres yr Hydref.
Seland Newydd, Yr Ariannin, Georgia ac Awstralia fydd y gwrthwynebwyr, gyda carfan Wayne Pivac yn ceisio adeiladu ar y gyfres gystadleuol yn Ne Affrica dros yr haf.
Felly dyma gipolwg o'r timau fydd yn ymweld 芒 Chaerdydd rhwng 5-26 Tachwedd.
Seland Newydd
Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd. 15:15.
Er bod y Crysau Duon yn un o'r enwau enwocaf ym myd chwaraeon, mae 2022 wedi bod yn flwyddyn digon anodd i'r t卯m o ystyried y safonau uchel arferol. Eleni fe gollodd Seland Newydd gyfres gartref yn erbyn Iwerddon, a hefyd colli gartref yn erbyn Yr Ariannin am y tro cyntaf.
Ond wedi dechreuad sigledig fe enillodd Seland Newydd Y Bencampwriaeth Rygbi (The Rugby Championship) gyda buddugoliaeth a phwynt bonws dyngedfennol yn y g锚m olaf yn erbyn Awstralia.
Dydy Cymru heb guro'r Crysau Duon ers mis Rhagfyr 1953, a thair buddugoliaeth sydd gan Gymru yn erbyn Seland Newydd erioed (36 o gemau). Y golled drymaf oedd 55-3 yn Hamilton ym mis Mehefin, 2003.
Er hyn mae Seland Newydd wedi ennill ambell ornest o drwch blewyn dros y blynyddoedd; 19-16 yn 1972, 13-12 yn 1978 ac 26-25 yn 2004 yn enghreifftiau o hyn.
Bydd Seland Newydd heb nifer o'u henwau mawr yn erbyn Cymru ar 5 Tachwedd; Dane Coles, Brodie Retallick, Sam Cane, Folau Fakatava a Will Jordan ymysg y rhai fydd ddim yn ymweld. Ond fel mae'r hen 肠濒颈肠丑茅 yn ein dysgu, does ddim y fath beth a th卯m Crysau Duon gwan.
Yr Ariannin
Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd. 17:30.
Nid tan 1991 y chwaraeoedd Cymru g锚m brawf swyddogol yn erbyn Yr Ariannin am y tro cyntaf, a hynny yn ystod pwncampwriaeth Cwpan y Byd.
Roedd dwy g锚m 'di-gap' rhwng y ddwy wlad yn Yr Ariannin yn 1968 - un fuddugoliaeth i'r Ariannnin ac un g锚m gyfartal oedd y canlyniadau. Roedd hefyd g锚m yng Nghaerdydd yn 1978 ble enillodd Cymru 20-19. Yn chwarae i Gymru y dydd hwnnw oedd Gareth Edwards, Phil Bennett, JPR Williams, JJ Williams, Derek Quinnell a'r rheng-flaen enwog o Bont-y-p诺l . Yn faswr i'r Ariannin ar gyfer y g锚m oedd y dewin Hugo Porta.
Ers 1991 mae 20 g锚m wedi bod rhwng y ddwy wlad; 13 buddugoliaeth i Gymru, chwech i'r Ariannin, ac un g锚m gyfartal.
Eleni fe enillodd Yr Ariannin gyfres prawf yn erbyn Yr Alban ac ym mis Awst daeth buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn Christchurch.
Ymysg s锚r y Pumas mae'r asgellwr chwim Emiliano Boffelli o Gaeredin a'r ail-reng Tom谩s Lavanini o glwb ASM Clermont Auvergne. Ond un o'r chwaraewyr amlycaf fydd yn gwisgo'r glas a gwyn yw'r blaenasgellwr Pablo Matera. Mae Matera'n chwarae dros y Crusaders yn Seland Newydd, mae'n cludo'r b锚l yn gryf ac yn chwaraewr hynod ysbrydoledig yn y pac.
Georgia
Dydd Sadwrn, 19 Tachwedd. 13:00.
Dim ond tair gwaith y mae Cymru wedi chwarae Georgia, gyda Chymru'n ennill ar bob achlysur - 13-6 yn 2017, 43-14 yn 2019, ac 18-0 yn 2020.
Dros yr haf eleni fe enillodd Georgia yn erbyn Portiwgal a'r Eidal, ac mae gobeithion yn y wlad fod y garfan yn mynd o nerth i nerth.
Mae'r wlad eisoes wedi hawlio ei lle yng Nghwpan y Byd 2023 gan ennill Pencampwriaeth Rygbi Ewrop (yr ail haen o rygbi yn Ewrop o dan Bencampwriaeth y Chwe Gwlad).
Mae Georgia yn y 13fed safle yn netholion y byd ar hyn o bryd, uwchben Yr Eidal (14), Sbaen (15) a Tonga (16).
Mae'n debyg mai Mamuka Gorgodze yw'r enw mwyaf yn rygbi Georgia dros y blynyddoedd diweddar - roedd yr ail-reng yn chwarae dros Toulon tan iddo roi'r gorau i chwarae tair blynedd yn 么l.
Y dyddiau 'ma mae llawer o'r chwaraewyr, yn enwedig o'r blaenwyr, yn gwneud eu bywoliaeth yn Ffrainc, gyda'r prop Guram Gogichashvili o Racing 92 a'r blaenasgellwr Beka Gorgadze o Pau ymysg y chwaraewyr mwyaf dawnus.
Awstralia
Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd. 15:15.
Yn hanesyddol mae Cymru wedi gwneud yn well yn erbyn Awstralia na'r ddau fawr arall o Hemisffer y De (Seland Newydd a De Affrica). Ers 1908 mae'r timau wedi cwrdd 44 gwaith; 30 buddugoliaeth i Awstralia, 13 i Gymru, gydag un g锚m gyfartal yn 2006.
Ennill dwy g锚m a cholli pedair oedd hanes y Wallabies yn y Bencampwriaeth Rygbi eleni, gan orffen yn drydydd yn y tabl, un pwynt uwchben Yr Ariannin. Ar 29 Hydref fe enillodd Awstralia 16-15 yn erbyn Yr Alban, ond cyn hynny fe gollodd y Wallabies tair g锚m yn olynol. Collodd Awstralia gyfres dair g锚m yn erbyn Lloegr dros yr haf, ac roedd colled drom yn Yr Ariannin ym mis Awst, 48-17.
Ymysg y chwaraewyr mwyaf profiadol yng ngharfan y Wallabies mae'r maswr Bernard Foley, y prop James Slipper a'r blaenasgellwr sydd hefyd yn gapten, Michael Hooper.
Hefyd o ddiddordeb: