Cefnogaeth i bobl 芒 chyflwr Parkinson's yn 'loteri'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n cynrychioli'r bobl sy'n byw gyda'r cyflwr niwrolegol Parkinson's wedi beirniadu diffyg gofal arbenigol yng Nghymru.
Yn 么l Parkinson's UK Cymru, "loteri" yw'r gofal yng Nghymru i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.
Maen nhw'n dweud bod rhyw 7,600 yn byw 芒'r clefyd trwy'r wlad, a 23 o nyrsys llawn amser sydd ar gael i gynnig gofal arbenigol iddyn nhw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.
Mae'r cyflwr Parkinson's yn amharu ar allu'r ymennydd i greu'r cemegyn dopamin, ac mae hynny'n lleihau gallu'r corff i reoli symudiad.
Does dim meddyginiaeth ar hyn o bryd all gynnig gwellhad llwyr.
Un sy'n byw gyda'r cyflwr yw'r cyn-chwaraewr rygbi, a thad i ddau, Antony Evans. Cafodd ddiagnosis yn 42 oed.
Mae'n dweud bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth o'r cyflwr, hyd yn oed ymysg meddygon.
Darganfyddwyd ei gyflwr saith mlynedd yn 么l, pan roedd yn paratoi am lawdriniaeth ar ei gefn oedd ddim yn gysylltiedig 芒 Parkinson's.
"Methodd physios a doctoriaid eraill y cyflwr oherwydd fy oedran," meddai. "Mae angen i ddoctoriaid wybod am hyn - gall pobl dan 40 gael Parkinson's.
"Ges i ymarferion i'w gwneud fel [cymeriad y ffilm] Karate Kid - [y dechneg] 'wax on, wax off'. Roedd gyda fi ffenestri gl芒n iawn, ond doedd dim pwrpas iddyn nhw.
"Doedd neb wedi ystyried Parkinson's am fy mod i'n 42 oed."
'Colli hyder'
Yn y 1990au hwyr a degawd cynta'r ganrif yma, roedd Antony'n chwarae yn yr ail reng i d卯m enwog Caerffili a sicrhaodd ddyrchafiad am ddeg tymor yn olynol.
Roedd yn rhan o'r garfan a sicrhaodd fuddugoliaeth enwog yn Ffrainc - g锚m Ewropeaidd a enillodd Caerffili o 31 pwynt i 20 yn Racing Club de France ym 1998.
Chwaraeodd yn erbyn rhai o gewri'r gem mewn gemau Ewropeaidd eraill yn erbyn Pau, Brive a Perpignan.
Ond mae cyflwr Parkinson's wedi gwneud bywyd yn anodd i un fu'n athletwr cryf a chorfforol.
"Roeddwn i dros 18 st么n - fi nawr yn 13 st么n. Mae hwnna'n cymryd dy hyder bant. Mae'n cymryd dy gryfder corfforol.
"Ti'n colli bach o hyder, a'r teimlad ti gallu amddiffyn dy deulu."
Mae'n dweud ar rai boreau bod y cyflwr yn gwneud tasgau syml fel brwsio dannedd yn anodd. Ac mae'n dweud bod diffyg datblygiad o ran dealltwriaeth a thriniaethau Parkinson's.
"Mae Parkinson's yn rheoli fi ar hyn o bryd. Os yw'r meddyginiaeth ddim yn gweithio, fi ffili gwneud lot. Mae hynny'n anodd iawn i ddelio 芒 fe.
"Mae'r meddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio i drin Parkinson's nawr yr un peth 芒'r 1950s.
"Ar hyn o bryd, mae tipyn o sylw i gyflyrau niwrolegol fel MND, dementia a Alzheimer's. Ond Parkinson's yw'r un sy'n tyfu gyflymaf drwy'r byd. Does dim yr un buzz gan y cyfryngau a gwahanol sefydliadau amdano fe."
Mewn ymdrech i wella ymwybyddiaeth am y cyflwr, mae Antony ac eraill wedi ail-frandio t卯m p锚l-droed yng Nghaerdydd i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr.
Bob nos Lun, mae Phoenix 681 FC yn cwrdd i ymarfer. Mae'r chwaraewyr oll yn byw gyda, neu wedi eu heffeithio gan Parkinson's.
Sbardun y rhif 681 yn yr enw yw mai dyna rif y cemegyn dopamin, sydd yn brin yn rheiny sydd yn byw gyda Parkinson's.
Mae dau bwrpas i'r t卯m, gydag arbenigwyr yn argymell ymarfer corff i helpu rheoli symptomau. Mae hefyd yn gyfle i'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr, neu'n cefnogi rhywun 芒 Parkinson's, i drafod a chefnogi eraill mewn sefyllfa debyg.
Maen nhw hefyd yn gobeithio bydd y t卯m yn cynyddu ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Treialon meddygol
Ar hyn o bryd, mae Antony yn teithio i Nottingham yn rheolaidd am wythnos ar y tro i fod yn rhan o dreialon meddygol.
Mae Parkinson's yn gyflwr sy'n gwaethygu gydag amser, ac mae Antony'n gobeithio bydd triniaethau'n gwella yn y dyfodol.
"Dwi'n trio stopio fy hun rhag meddwl am y dyfodol. I fod yn onest, dwi ddim yn credu bydd unrhyw beth i helpu fi cyn i fi popo mas o stage door left.
"Os alla'i wneud rhywbeth o ran profi triniaeth allai helpu eraill yn y dyfodol, dyna sy'n cadw fi i fynd - i helpu trio ff'indio triniaeth lwyddiannus at y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019