大象传媒

Gwahardd Aelod o鈥檙 Senedd Plaid Cymru Rhys ab Owen

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Rhys ab Owen ei ethol fel AS am y tro cyntaf yn 2021
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rhys ab Owen ei ethol fel AS am y tro cyntaf yn 2021

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, Rhys ab Owen wedi ei wahardd o gr诺p y blaid ym Mae Caerdydd.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall fod y gwaharddiad yn ymwneud 芒 honiad difrifol am ei ymddygiad.

Mae'n wynebu ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad, meddai Plaid Cymru mewn datganiad.

Etholwyd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, am y tro cyntaf i'r Senedd yn 2021.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd Mr ab Owen yn eistedd fel aelod annibynnol yn y Senedd tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae Mr ab Owen yn parhau yn aelod o'r blaid. Gofynnwyd iddo am sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o gr诺p Plaid Cymru.

"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach yn cael ei gyhoeddi," ychwanegodd y llefarydd.

Pynciau cysylltiedig