Symud ceiswyr lloches i westy yn y gogledd 'yn annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru wedi dweud ei fod yn "annerbyniol" bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio gwesty i gartrefu ceiswyr lloches heb roi gwybod i Lywodraeth Cymru, cynghorau na'r heddlu.
Mae'r gwesty gwledig, nad yw'r 大象传媒 yn cyhoeddi ei enw am resymau diogelwch, yn cael ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref i leihau'r pwysau ar ganolfannau cadw gorlawn yng Nghaint.
Mae Jane Hutt wedi rhybuddio'r Swyddfa Gartref bod yna risg o feithrin eithafiaeth yn sgil symud yr unigolion i ardal wledig ble nad yw'r gwasanaethau arbenigol angenrheidiol ar gael yn lleol.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cydnabod pryderon Ms Hutt ac wedi diolch i Lywodraeth Cymru am eu "cydweithrediad parhaus hyd yma".
'Dim ymgynghori'
Mae 大象传媒 Cymru wedi gweld y llythyr gan Jane Hutt at Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU, Robert Jenrick.
Yn y llythyr fe ddywedodd bod Llywodraeth Cymru yn "ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu'r Swyddfa Gartref o ran darparu llety ar gyfer ceiswyr lloches".
"Fodd bynnag, mae'n annerbyniol bod eich adran wedi methu 芒 chysylltu na hysbysu Llywodraeth Cymru, aelodau'r Senedd a phartneriaid allweddol fel yr awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu yng Nghymru cyn rhoi'r trefniadau hyn ar waith."
Dywedodd bod y gwesty'n cael ei ddefnyddio "heb unrhyw ymgynghori o flaen llaw na hysbysiad o ran defnydd".
Mae Ms Hutt wedi cymharu'r sefyllfa 芒'r diffyg ymgynghori cyn cartrefu ceiswyr lloches yn hen wersyll y fyddin ym Mhenalun, yn Sir Benfro, a gafodd ei gau wedi i arolygwyr feirniadu'r amodau yno.
Yn niffyg cydweithio priodol, mae Ms Hutt yn rhybuddio am y "posibilrwydd o ddiffyg ymddiriedaeth a hyder o fewn y gymuned ehangach" ac fe "allai hynny yn ei dro arwain at risgiau mwy i'r ceiswyr lloches eu hunain".
Dywedodd bod yna bryderon yn arbennig ynghylch "yr effaith ar gydlyniant cymunedol" ardaloedd ble mae gwestai'n derbyn ceiswyr lloches, a'r posibilrwydd o ddenu "diddordeb gwrthwynebus mudiadau gelyniaethus sy'n weithredol yng Nghymru".
"Cibddall yw canolbwyntio'n ddogmataidd ar un amcan - lleihau cost y system ceisio lloches - mewn ffyrdd sy'n debygol o feithrin eithafiaeth y mae'r Swyddfa Gartref yn anelu at ei dileu."
'Lleihau'r risg i breswylwyr'
Ychwanegodd Ms Hutt bod dim gwasanaethau arbenigol ar gael mewn lleoliad mor wledig ar gyfer ceiswyr lloches, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl wedi trawma, arbenigwyr clefydau heintus, tiwtoriaid Saesneg, cynghorwyr cyfreithiol mewnfudo a chyfieithwyr.
Mae'n gofyn i weinidogion Cymru gael eu hysbysu "yn yr un ffordd ac ar yr un pryd" ag Aelodau Seneddol a chynghorau.
Mae hefyd yn erfyn ar y Swyddfa Gartref i ddefnyddio llety wrth gefn a "darparu cyllid digonol" i leihau'r risg i breswylwyr mewn gwestai ac yn y gymuned.
Dywedodd Mr Jenrick yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Llun ei fod yn cytuno y dylai ASau gael gwybod o flaen llaw os oes bwriad agor adnoddau newydd yn eu hetholaeth.
Mae yna gryn ddicter yn lleol ynghylch y sefyllfa yn y gogledd, yn 么l AS Ceidwadol Aberconwy Senedd, Janet Finch Saunders.
Mae hi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, gan fynegi "pryderon difrifol" a mynnu tro pedol.
Mae Cyngor Conwy hefyd wedi dweud na chafodd wybod o flaen llaw am gynllun y Swyddfa Gartref.
'Roeddan ni mewn sioc'
Gan fod y gwesty gwreiddiol erbyn hyn yn cartrefu ceiswyr lloches, mae cwpl wedi disgrifio'u sioc o orfod chwilio am leoliad newydd ar gyfer eu priodas.
Cafodd Lucie Campbell, 28, a Simon Prichard, 33, o Sir Conwy wybod mewn cyfarfod Zoom dros y penwythnos bod y gwesty, yr oedden nhw wedi ei fwcio dros flwyddyn yn 么l, wedi canslo'r briodas ar 10 Rhagfyr.
Doedd dim amcan gan y cwpl ar ddechrau'r cyfarfod ar-lein bod eu cynlluniau ar fin cael eu chwalu.
"Roedd rheolwr y gwesty yna, a chydlynydd y briodas a dywedon nhw bod y sefyllfa allan o'u dwylo," meddai Ms Campbell.
"Roeddan ni mewn sioc. Ro'n i'n teimlo'n ofnadwy drostyn nhw, yn enwedig cydlynydd y briodas achos hi 'nath orfod torri'r newydd i ni."
Ychydig ddyddiau oedd gan y cwpl, wedi 10 mlynedd o berthynas a thri o blant wyth, pump a thri mis oed, i sicrhau lleoliad newydd, oherwydd yr angen i roi 28 diwrnod o rybudd i'r swyddfa gofrestru.
Trwy lwc mae'r achlysur nawr am gael ei gynnal mewn gwesty yn ardal Llanrwst, a does dim angen llawer o newidiadau i'r trefniadau gwreiddiol, ond mae Ms Campbell "dal methu credu" beth sydd wedi digwydd.
Dywedodd ei bod yn cydymdeimlo gyda'r ceiswyr lloches sydd bellach yn aros yn y gwesty gwreiddiol, gan ddweud bod eu sefyllfa nhw'n llawer mwy difrifol.
"'Dan ni'n dal yn priodi ac mae'n lleoliad hyfryd ac mae'r staff wedi bod mor garedig," meddai.
Mae'r cwpl hefyd wedi derbyn ad-daliad gan y gwesty. Doedd rheolwyr y gwesty ddim yn dymuno gwneud sylw.
Mae'r 大象传媒 wedi gweld e-bost gan weithredwyr y gwesty at wleidyddion lleol ddydd Sadwrn.
Mae'n dweud: "Gyda'r argyfwng presennol yng Nghaint o ran canolfannau cadw gorlawn, mae'r Swyddfa Gartref wedi cysylltu gan ofyn i ni ddod i gytundeb llety tymor byr, yr oeddem yn teimlo oedd y peth cywir i'w wneud.
"Roedd hwn yn gynllun brys iddyn nhw ac rydym wedi ein cytundebu yn syth.
"Mae'r cytundeb yn ein penodi fel darparwr llety, ond y Swyddfa Gartref sy'n darparu'r holl drefniadau diogelwch."
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud yn y gorffennol mai "datrysiad tymor byr" yw defnyddio gwestai a'u bod yn gweithio gyda chynghorau i ddod o hyd i lety addas.
Mewn datganiad pellach nos Fercher, dywedodd llefarydd: "Rydym wedi derbyn pryderon y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ac yn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cydweithrediad parhaus hyd yma.
"Rydym yn derbyn, er nad yw gwestai yn darparu ateb hirdymor, eu bod yn sicrhau bod y llety a ddarperir yn saff, yn ddiogel, yn gadael neb yn amddifad ac yn briodol ar gyfer anghenion pob unigolyn.
"Rydym mewn deialog gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid statudol eraill ar y defnydd o westai wrth gefn yn y wlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022