Ysgolion Cymru yn uno mewn jambori cyn Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae bron i chwarter miliwn o blant ar draws Cymru wedi dod ynghyd yn rhithiol i gymryd rhan mewn jambori arbennig i ddathlu t卯m Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd.
Fe ddaeth miloedd o ysgolion ar draws y wlad at ei gilydd i ganu rhai o anthemau'r bencampwriaeth gan gynnwys Yma o Hyd.
Mae'r jambori wedi ei drefnu gan Urdd Gobaith Cymru ac yn cynnwys disgyblion o 1,071 o ysgolion ym mhob rhan o Gymru.
Yn 么l Prif Weithredwr y mudiad Sian Lewis, does dim un wlad arall wedi llwyddo i ddod 芒 gymaint o blant ynghyd i ddathlu'r t卯m cenedlaethol.
'Rhai yn cofio cyffro Euro 2016'
Bydd caneuon fel 'Aderyn Melyn' a 'Dewch 芒 Cwpan Adre'n 么l' yn cael eu canu gan blant Cymru sydd oll yn gwisgo coch i ddathlu.
Yn Ysgol Pen Barras, Rhuthun, mae disgyblion wedi bod yn ymarfer ar gyfer y jambori ers wythnosau a'r dosbarth wedi ei addurno ar gyfer y diwrnod.
"Mae'r plant 'di bod yn gweithio'n galed iawn a phawb wedi bod yn edrych ymlaen," meddai pennaeth yr ysgol, Ffion Hughes.
"Mae 'na fwrlwm, cyffro rownd y lle at y jambori a Chwpan y Byd.
"Be sy'n neis ydy bod rhai o'r plant yn cofio'r cyffro adeg yr Ewros 2016 a rhai eraill ddim, felly ma'n neis gallu ennyn brwdfrydedd t卯m Cymru."
Mae'r jambori wedi cyrraedd tu hwnt i Gymru hefyd.
Roedd Michael Downey, sy'n athro yn Ysgol Gynradd Griffin yn ardal Wandsworth yn Llundain, yn awyddus i blant yr ysgol ddysgu Yma o Hyd ar gyfer y digwyddiad.
'N么l yn Rhuthun, mae disgyblion Ysgol Pen Barras wedi mwynhau y profiad o ganu gyda miloedd o blant o bob pegwn o'r wlad.
"Dwi'n gobeithio 'neith nhw ennill a dwi eisiau iddyn nhw wneud eu gorau glas," meddai Megan ym mlwyddyn 6 wrth siarad am y garfan.
Yn 么l Deio, mae'n poeni a fydd y chwaraewyr yn gallu ymdopi 芒 haul Qatar gan fod Cymru yn lle "oer", ond yn mynnu fydd y t卯m yn iawn.
"Dwi hefyd yn hoffi y ffaith fod gymaint o chwaraewyr ifanc y t卯m yn cael cyfle," meddai.
Yn eu gwisgoedd coch, roedd Ela ac Osian hefyd yn dymuno pob lwc i'r t卯m ac yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau y profiad o ganu yn arw.
Fel rhan o'r digwyddiad mi fuodd negeseuon yn cael eu rhannu gan rhai o fawrion y t卯m cenedlaethol a'r prif weinidog, Mark Drakeford.
Bu Dafydd Iwan hefyd yn ymuno'n rhithiol i arwain canu ei g芒n adnabyddus - a ch芒n swyddogol t卯m Cymru ar gyfer Qatar - 'Yma o Hyd'.
Fe gafodd y digwyddiad sylw hefyd ar draws rhaglenni 大象传媒 Radio Cymru, 大象传媒 Radio Wales a 大象传媒 5 Live.
'90% o ddisgyblion cynradd yn canu'
Yn 么l Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd roedd y digwyddiad yn "gyffrous tu hwnt".
"230,000 o blant Cymru - rhyw 1,071 o ysgolion - 'dan ni'n troi Cymru yn goch yma yng Ngwlad y G芒n!
"Mae 'na ganeuon wedi eu dysgu i'r oedran cynradd, rhai hwyliog, yn addas i blant iaith gyntaf ac ail iaith.
"Yn gyfle i bawb ymuno mewn," meddai.
"Mae Dafydd Iwan yn cyd-ganu, mae Mark Drakeford yn rhoi neges i'r genedl, Robert Page, Aaron Ramsey, ac wrth gwrs y prif un... Mr Urdd yno drwy gydol y bore!"
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb ar draws Cymru i'r jambori wedi "tynnu pawb ynghyd".
"Mae'r holl broses wedi codi llawer o gyffro - cyfnod hapus i ni fel cenedl.
"Dwi'm yn meddwl fod 'na un wlad arall yn y byd lle mae bron i 90% o ddisgyblion cynradd y genedl wedi canu i ddymuno'n dda i'r t卯m."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022