大象传媒

Menyw ddall a'i chi wedi'u 'taflu mas' o westy

  • Cyhoeddwyd
Angharad Paget-Jones yn sefyll ar bont gyda'i chi tywys TudorFfynhonnell y llun, Angharad Paget-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad Paget-Jones yn dweud bod staff gwesty wedi dweud wrthi nad oedd hi'n edrych yn ddall, ac mai ffug oedd ei chi tywys

Cafodd menyw ddall o Bort Talbot ei "thaflu mas" o westy Premier Inn yn Llundain oherwydd bod gweithwyr yno ddim yn credu bod ei chi yn gi tywys.

Roedd Angharad Paget-Jones, 29, wedi mynd i Lundain i ddathlu noson t芒n gwyllt gyda'i chariad pan ddechreuodd staff y gwesty gwestiynu pam roedd ganddi gi.

Mae elusen Guide Dogs wedi dechrau deiseb yn galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau cyfreithiau mynediad.

Dywedodd llefarydd ar ran Whitbread, perchnogion Premier Inn, eu bod wedi'u "synnu a'n dychryn" i glywed yr hanes a bod "ymchwiliad brys eisoes wedi dechrau".

'Ci tywys ffug'

Roedd Ms Paget-Jones wedi bod allan am fwyd gyda ffrindiau yn Llundain cyn dychwelyd i'r gwesty, ac ar y pryd doedd gan y staff ddim cwestiynau yngl欧n 芒'i chi, Tudor.

Ond nes ymlaen, pan aeth ei chariad 芒 Tudor tu allan, fe ddywedodd y cwpl bod staff y dderbynfa wedi gofyn am "dystiolaeth" ei fod yn gi tywys.

Ffynhonnell y llun, Angharad Paget-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae fideo sydd wedi'i weld gan y 大象传媒 yn dangos fod gan y cwpl lyfryn adnabod ar gyfer y ci tywys

Yn 么l Ms Paget-Jones, er eu bod wedi dangos harnes Tudor i'r staff, doedden nhw ddim ei chredu hi, gan ddweud wrth y cwpl "nad oedd hynny yn dystiolaeth ddigonol" a gofyn iddyn nhw adael.

Dywedodd ei bod wedi gofyn am gael siarad gyda'r rheolwr, ond fe wnaethon nhw barhau i fynnu ei bod hi'n gadael y gwesty.

Roedd y staff yn mynnu nad oedd hawl dod 芒 ch诺n yno fel rhan o'u polisi, a bod "Tudor yn edrych fel ci tywys ffug".

Wrth s么n am ei phrofiad dywedodd Ms Paget-Jones ei bod hi'n teimlo fel petai'r staff yn gwahaniaethu yn ei herbyn a'i bod wedi cael ei "haflonyddu".

"Roedd hi'n hwyr ar noson t芒n gwyllt, ac mae gen i ofn t芒n gwyllt, felly roedd hi'n frawychus bod tu fas yn y tywyllwch fel person dall mewn man anghyfarwydd," meddai.

Roedd yn rhaid i'r cwpl aros gyda pherthnasau, ond yn 么l Ms Paget-Jones fe gafodd hi bwl o banig ac mae'r digwyddiad yn dal i gael effaith arni.

'Ddim yn goddef gwahaniaethu'

Dywedodd llefarydd ar ran Whitbread, perchnogion Premier Inn, eu bod wedi'u "synnu a'n dychryn" ar 么l clywed am yr hanes, a bod "ymchwiliad brys eisoes wedi dechrau".

Dywedon nhw nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad, ond nad ydyn nhw'n goddef unrhyw achos o wahaniaethu.

Ffynhonnell y llun, Guide Dogs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad Paget-Jones wedi ymgyrchu dros fynediad i g诺n tywys gydag elusen Guide Dogs ac yn galw am gryfhau'r gyfraith

Mae elusen Guide Dogs yn dweud bod eu hymchwil nhw yn dangos fod 81% o berchnogion c诺n tywys wedi cael eu gwrthod rhag cael mynediad i fusnes neu wasanaeth ar ryw adeg.

Mewn datganiad, dywedodd un o'u penaethiaid, Blanche Shackleton: "Ry'n ni wedi bod yn ymgyrchu i ddod 芒 diwedd ar wrthod caniat谩u mynediad i g诺n tywys ers sawl blwyddyn, ond mae nifer o berchnogion yn dal i ddweud bod hynny'n digwydd yn anghyfreithlon.

"Mae angen i'r ddeddf fod yn gryfach, felly ry'n ni'n galw ar y llywodraeth i ddod 芒 diwedd ar hyn, ac i sicrhau, oni bai bod 'na reswm cyfreithiol digonol, fod perchnogion c诺n tywys yn cael eu croesawu pan maen nhw'n defnyddio busnesau, siopau a thacsis."

"Mae'r gyfraith yn glir, serch hynny mae mynediad yn dal i gael ei wrthod i berchnogion c诺n tywys, sydd yn anghyfreithlon ar bron bob achlysur.

"Ry'n ni wir yn poeni ar 么l clywed am brofiad Angharad."

Pynciau cysylltiedig