Cyfres yr Hydref: Cymru 20-13 Yr Ariannin
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi llwyddo i roi'r golled drom yn erbyn Seland Newydd wythnos yn 么l y tu cefn iddyn nhw trwy drechu'r Ariannin yn eu hail hail g锚m yng Nghyfres yr Hydref.
Ceisiau gan Taulupe Faletau a Tomos Williams wnaeth helpu sicrhau'r fuddugoliaeth yn Stadiwm Principality.
Er gwaethaf dechrau da i'r t卯m mewn coch, yr ymwelwyr wnaeth sgorio pwyntiau cyntaf y noson. Ildiodd Cymru gic gosb ac fe giciodd Emiliano Boffelli'n gywir.
Roedd yna ragor o gamsefyll yn y munudau dilynol nes bu'n rhaid i'r dyfarnwr, Ben O'Keeffe gael gair gyda chapten Cymru, Justin Tipuric, ac roedd yn amlwg bod angen mwy o ddisgyblaeth i osgoi carden felen.
Gyda llai na chwarter awr ar y cloc, roedd y Pumas chwe phwynt ar y blaen wedi ail gic gosb Boffelli.
Ac o fewn 20 munud roedd Cymru wedi cael eu cosbi am y chweched tro ers y gic gyntaf - y tro hwn am dacl uchel gan George North - wrth i'r Archentwyr reoli mwy o'r chwarae.
Fe wnaeth perfformiad Cymru ddechrau gwella ac fe groesodd Ken Owens y linell gan achosi gorfoledd ymhlith y cefnogwyr cartref yn Stadiwm Principality. Yn anffodus, doedd y cais ddim yn sefyll gan fod y bachwr wedi gollwng y b锚l ymlaen wrth blymio i'r llawr.
Ond doedd dim amheuaeth, wedi 32 o funudau, bod y b锚l wedi croesi'n gywir er nad oedd yn gwbl glir pa un o chwaraewyr Cymru yn y sgarmes gafodd y cyffyrddiad olaf.
Daeth cadarnhad, ar 么l asesu'r lluniau teledu, mai Taulupe Faletau oedd yr arwr.
Wedi cic lwyddiannus cyntaf Gareth Anscombe o'r g锚m roedd Cymru ar y blaen am y tro cyntaf, ac roedd t卯m Wayne Pivac yn haeddu bod 10-6 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Roedd disgwyl i'r Ariannin daro'n 么l yn gryf yn yr ail hanner o gofio natur eu perfformiad wrth drechu Lloegr wythnos diwethaf.
Ond cymharol araf oedd hi wedi'r egwyl am gyfnod. Llwyddodd Louis Rees-Zammit i weld mwy o'r b锚l yn safle'r cefnwr nag ar yr asgell yn y golled yn erbyn Seland Newydd wythnos yn 么l.
Bu cyfnod o gicio'r b锚l yn 么l ac ymlaen rhwng y naill d卯m a'r llall cyn i Tomos Williams greu cais annisgwyl.
Fe giciodd y b锚l i dir y gwrthwynebwyr, a llwyddo i atal cic y cefnwr Juan Cruz Mallia yn 么l, codi'r b锚l a charlamu tua'r llinell. Gyda throsiad Anscombe roedd hi'n 17-6.
Er iddyn nhw agor y bwlch rhwng y ddau d卯m, roedd Cymru'n dal i wneud camgymeriadau. Roedd yna gwestiynau unwaith yn rhagor am eu disgyblaeth, ac fe gafodd Will Rowlands ei hel o'r maes.
Ymosododd yr Ariannin yn gryf gan fanteisio ar fod ag un dyn ychwanegol ond roedden nhw hefyd yn fl锚r wrth drin y b锚l ar 么l cael eu hunain mewn safleoedd addawol.
Fe gafodd Cymru gic gosb arall wedi i'r Ariannin gamsefyll ac fe sgoriodd Rhys Priestland, oedd wedi dod ymlaen yn lle Anscombe, i wneud hi'n 20-6.
Ond fe dalodd yr holl bwysau a'r meddiant yn y diwedd i'r Archentwyr pan diriodd Matias Alemanno o'r sgarmes, a gyda throsiad Boffelli roedd hi'n 20-13.
Gyda 10 munud yn dal ar y cloc, roedd yna wir bosibilrwydd i'r Ariannin ddod yn gyfartal, os nad cipio'r g锚m ac roedd yna gryn nerfusrwydd a rhagor o gicio'n 么l ac ymlaen.
Ond fe wnaeth amddiffyn Cymru'n arbennig i gadw'r Ariannin yn eu hanner eu hunain, a'r Cymry o blith y dorf o 59,606 oedd yn dathlu ar y chwiban olaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2022