Cwpan y Byd: Joe Allen yn gobeithio gallu wynebu'r UDA
- Cyhoeddwyd
Mae Joe Allen yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer g锚m agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd, er nad yw wedi chwarae ers 17 Medi oherwydd anaf i linyn y gar.
Bydd Cymru'n wynebu'r Unol Daleithiau yn Qatar ddydd Llun nesaf, mewn gr诺p sydd hefyd yn cynnwys Lloegr ac Iran.
Mae Allen, 32, yn ffigwr hynod ddylanwadol i Gymru ond mae pryder wedi bod am ei ffitrwydd wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
"Dwi'n gobeithio bod yn ffit ar gyfer y g锚m gyntaf. Does dim llawer o amser, ond mae hon yn wythnos bwysig i mi," meddai.
"Mae'n gwella, diolch byth. Dwi wedi bod yn trio cael fy hun yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd.
"Rydw i wir eisiau profi fy ffitrwydd. Bydd yn rhaid i ni weld sut aiff yr wythnos hon, ond rwy'n teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus na fydd yn ormod o broblem."
Siambr ocsigen
Mewn ymgais i wynebu'r Unol Daleithiau a chwarae yn ei Gwpan y Byd cyntaf, dywedodd ei fod wedi mynd i drafferth mawr er mwyn gwella.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Ar y dechrau, roeddwn i braidd yn anlwcus o ran gwybod beth yn union oedd y broblem ond, diolch byth, fe wnaethon ni ddarganfod pa mor ddrwg oedd yr anaf.
"Ers hynny, rydym wedi llunio cynllun adfer a gweithio'n galed. Rwy'n ddiolchgar fy mod wedi cael cymaint o help gan bawb yn Abertawe a Chymru.
"Rwyf wedi bod i Lerpwl i weld arbenigwr ac wedi cael siambr ocsigen hyperbarig yn fy nh欧. Rwyf wedi taflu popeth ato.
"Erbyn hyn, mae pethau'n mynd yn dda a gobeithio y bydda i'n barod ar gyfer dechrau'r twrnamaint."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022