大象传媒

Heddlu Gwent: Swyddog yn apelio diswyddiad camymddwyn

  • Cyhoeddwyd
Mark Warrender, Marc Budden a Paul StaniforthFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r chwith i'r dde: Mark Warrender, Marc Budden a Paul Staniforth

Mae o leiaf un o uwch swyddogion Heddlu Gwent a gafodd eu diswyddo yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Daeth panel disgyblu i'r canlyniad ym mis Medi fod tri uwch swyddog yn euog o gamymddygiad difrifol yn dilyn digwyddiad mewn parti gwaith.

Cafodd dau swyddog - y Prif Uwch-arolygydd Mark Budden a'r Prif Arolygydd Paul Staniforth - eu diswyddo.

Byddai trydydd swyddog - y Prif Uwch-arolygydd Mark Warrender - wedi cael ei ddiswyddo, ond fe wnaeth ymddeol o'r llu ddyddiau yn unig cyn i'r panel wrando ar y dystiolaeth.

Roedd y cyn-Brif Uwch-arolygydd Warrender wedi cael ei gyhuddo o gyffwrdd swyddog iau yn amhriodol mewn parti ymddeoliad yn 2019.

Cafwyd y tri hefyd yn euog o gynnal sgwrs amhriodol gyda'r swyddog.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert: "Fe alla'i gadarnhau fod yna ap锚l ac mae wedi cael ei gyfeirio at dribiwnlys apeliadau'r heddlu."

Doedd gan y llefarydd ddim i'w ychwanegu tra bo'r ap锚l yn mynd rhagddo, ac nid oedd yn barod i gadarnhau faint o swyddogion oedd yn apelio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd negeseuon ff么n a welwyd gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly yn "ffiaidd", meddai

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd y bydd Heddlu Wiltshire yn cynnal ymchwiliad ar wah芒n i honiadau o ymddygiad annerbyniol ar sail hil a rhyw gan sawl swyddog yn Heddlu Gwent yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd y Sunday Times.

Roedd teulu un o gyn-swyddogion y llu, Ricky Jones, wnaeth ladd ei hun yn 2020, wedi mynd at y papur yn ogystal 芒 Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar 么l darganfod negeseuon amhriodol ar ff么n symudol y cyn-blismon ar 么l iddo farw.

Ar 么l gofyn i heddlu Wiltshire gynnal ymchwiliad annibynnol i'r negeseuon hynny, fe ddywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, fod cynnwys y negeseuon iddi hi eu gweld yn "ffiaidd".

Does yna ddim cysylltiad rhwng ymchwiliad Heddlu Wiltshire a'r ap锚l gan un, neu fwy o swyddogion gafodd eu diswyddo am gamymddwyn yn ddifrifol.

Pynciau cysylltiedig