Dyn mewn cyflwr difrifol wedi i fuwch ymosod arno
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol wedi i fuwch ymosod a sathru arno wedi iddi ddianc o farchnad Hendy-gwyn.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod yr anifail wedi dianc o'r mart yn Sir G芒r fore Sadwrn toc wedi 10:15 cyn anafu dyn a oedd yn cerdded ar Heol y Gogledd.
Bu'n rhaid atal trenau rhag teithio am gyfnod wrth i'r fuwch grwydro ar y rheilffordd ac yna bu'n rhaid ei difa gan ei bod yn beryglus ac nad oedd modd ei rheoli.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gan ambiwlans awyr.
Wedi i'r fuwch fynd i gae dywed yr heddlu bod "ymdrechion wedi bod" i arbed bywyd y fuwch wedi trafodaethau ar y cyd 芒'r perchennog.
"Ond ofer fu pob ymdrech ac yn sgil y perygl, cafodd ei difa gyda chydsyniad y perchennog," medd llefarydd ar ran yr heddlu.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi'u hysbysu.