大象传媒

Negeseuon at fenywod yn 'gefnogol', medd heddwas

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Heddlu GwentFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cwnstabl Robert Davies yn gwadu camymddygiad dybryd tuag at dair menyw

Mae swyddog heddlu sydd wedi ei gyhuddo o gamymddygiad mewn cysylltiad 芒 thair menyw wedi dweud wrth banel disgyblu bod "dim byd o'i le" gyda'i ymddygiad tuag atyn nhw.

Mae'r Cwnstabl Robert Davies, sy'n 50 oed ac o Gasnewydd, yn gwadu cyhuddiadau o gamymddygiad dybryd.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Llun fod negeseuon i'r menywod, ar hen ff么n gwaith yr heddwas, yn "awgrymog ac yn or-gyfeillgar".

Ond fe fynnodd Mr Davies ei fod ond yn mynegi consyrn a chefnogaeth.

Clywodd y panel, yn hen bencadlys yr heddlu Cwmbr芒n ei fod wedi dod i gysylltiad 芒'r menywod trwy ei waith rhwng Ionawr ac Ebrill 2020.

Roedd dwy ohonyn nhw wedi cysylltu 芒'r heddlu i roi gwybod am droseddau, ac roedd y llall yn chwaer i fenyw oedd hefyd wedi hysbysu'r llu ynghylch trosedd.

Cyfeiriodd rai o'r negeseuon at "freuddwydion drygionus", ac fe ddywedodd wrth un o'r menywod: "Rwyt ti'n bwysig iawn i mi."

Ar un achlysur, fe ofynnodd wrth fenyw faint o'r gloch roedd hi'n mynd i'r gwely ac mewn neges arall fy ddywedodd: "Rwyt ti'n hardd ymhob ffordd."

Ddim yn teimlo'n 'amhriodol'

Dywedodd Mr Davies bod y sylwadau'n rhan o sgyrsiau siriol, a bod dim cymhelliad rhywiol.

Clywodd y panel bod Mr Davies, yn ddiarwybod adeg y camymddygiad honedig, yn dioddef anhwylder straen wedi trawma (PTSD) o ganlyniad i fod yn dyst i sawl digwyddiad gofidus mewn 28 mlynedd gyda'r llu.

Ers hynny mae wedi bod ar feddyginiaeth gwrth-iselder ac wedi cael therapi.

"Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn [ymddwyn yn] amhriodol ar y pryd," dywedodd.

"Doeddwn i ddim yn ddyn iach oherwydd y digwyddiadau roeddwn wedi ymateb iddyn nhw. Roeddwn i dan straen.

"O edrych yn 么l, hoffwn i pe taswn i wedi cymryd amser o'r gwaith yn s芒l neu wedi gofyn am help."

Fe gyfaddefodd Mr Davies ei fod yn "drwsgl" wrth ysgrifennu negeseuon i'r menywod.

Ond fe wadodd ei fod wedi gofyn wrth un, y mae'r gwrandawiad yn ei galw'n Ms C, i aros yn ei gartref yng Nghasnewydd.

Fe ddywedodd hithau wrth y gwrandawiad yn gynharach ei bod yn teimlo bod y cysylltiadau rhyngddyn nhw wedi bod yn "amhriodol" a "rhy eofn".

Dywedodd bod Mr Davies yn "or-gyfeillgar" ac amhroffesiynol, gan honni iddo ei gwahodd i'w gartref.

Roedd y ddau, meddai, wedi trafod ystod o faterion mewn negeseuon testun a ff么n.

"Ar y pryd, ro'n i'n meddwl mai dyna oedd y protocol arferol," dywedodd. "Ro'n i'n meddwl bod y cysylltiadau dilynol yn rhan o'r dulliau gweithredu proffesiynol."

Ond dros gyfnod fe newidiodd ei meddwl, gan ddechrau gofidio ynghylch y negeseuon.

Dywedodd Mr Davies wrth y gwrandawiad na fyddai wedi gwahodd Ms C i'w gartref gan ei fod yn byw gyda, ac yn gofalu am, ei rieni oedrannus ar y pryd.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.