Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn yn cyfaddef twyll 拢200,000 gan bensiynwr o F么n
Mae dyn 51 oed wedi cyfaddef iddo gael miloedd o bunnau trwy dwyll gan bensiynwr o Ynys M么n a gafodd ei lofruddio maes o law gyda bwa croes.
Roedd Richard Wyn Lewis, o Lanfair-yn-Neubwll ger Caergybi, wedi gwadu 11 cyhuddiad o dwyllo sawl person, gan gynnwys y cyn-ddarlithydd 74 oed, Gerald Corrigan a'i gymar Marie Bailey.
Ond ar drydydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe gyflwynodd ble newydd yn achos pedwar cyhuddiad o dwyll, gan bledio'n euog.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Cafodd aelodau'r rheithgor eu rhyddhau a bydd y saith cyhuddiad sy'n weddill yn parhau yn nogfennau'r llys.
Roedd y llys wedi clywed bod Gerald Corrigan wedi colli 拢220,000 trwy dwyll yn y pedair blynedd cyn iddo gael ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w d欧 ar Ynys Cybi yn 2019.
Bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach ac fe gafodd Terence Whall ei garcharu yn 2020 am ei lofruddio.
Clywodd y rheithgor nad oes unrhyw gysylltiad rhwng yr achos yn erbyn Lewis a'r llofruddiaeth, ond fe ddaeth y materion dan sylw i'r golwg wrth i'r heddlu holi Ms Bailey wrth gynnal eu hymchwiliad.
Mae Lewis erbyn hyn yn cyfaddef twyllo Mr Corrigan a Ms Bailey mewn cysylltiad 芒 gwerthu eu t欧 ger Caergybi i ddatblygwr dychmygol, talu am geffylau na wnaeth ymddangos, a phryniant hen ysgoldy yn Llanddona.
Mae hefyd wedi cyfaddef twyllo cymydog, Aidan Maginn, mewn cysylltiad 芒 phrynu ceffyl.
Roedd cymar Lewis - Siwan Maclean, sy'n 53 oed - yn gwadu cyhuddiad o brosesu arian yn anghyfreithlon.
Yn dilyn pleon newydd Lewis, dywedodd Peter Rouch KC na fyddai'r erlyniad yn cynnig tystiolaeth mewn cysylltiad 芒'r cyhuddiad hwnnw, ac fe gafodd y rheithgor orchymyn i'w chael yn ddi-euog.