大象传媒

Cap cyntaf i Joe Hawkins yn erbyn Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Joe HawkinsFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Joe Hawkins yn ymuno 芒'i gydchwaraewr clwb Gareth Anscombe a George North yn y canol i Gymru

Bydd canolwr y Gweilch Joe Hawkins yn enilll ei gap rhyngwladol cyntaf wrth i Gymru herio Awstralia yn eu g锚m olaf yng Nghyfres yr Hydref.

Mae Hawkins, 20, yn llenwi'r bwlch yn sgil anaf i Owen Watkin, ac mae'r clo Alun Wyn Jones yn dychwelyd yn lle Ben Carter.

Ag yntau dan bwysau yn sgil canlyniadau diweddar Cymru, mae'r hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud chwech newid i'r t卯m a gollodd o 13-12 i Georgia.

Mae Leigh Halfpenny, Rio Dyer, Gareth Anscombe a Taulupe Faletau yn disodli Louis Rees-Zammit, Josh Adams, Rhys Priestland a Josh Macleod.

Dyw Rees-Zammit, Nick Tompkins, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell, sy'n chwarae yn Lloegr, ddim ar gael gan fod y g锚m yn cael ei chawrae tu hwnt i'r ffenestr ryngwladol.

Mae Hawkins wedi chwarae 21 o gemau i'r Gweilch, gyda chwech o'r rheiny o'r gic gyntaf.

Y canolwr yw'r pumed chwaraewr i gael cap cyntaf yr hydref hwn, gan ddilyn Dyer, Sam Costelow, Macleod a Jenkins.

Mae'n fab i gyn-ganolwr Aberafan Dai Hawkins, ac mae ymhlith naw o chwaraewyr y Gweilch sy'n dechrau'r g锚m yn erbyn Awstralia.

"Mae'n gyffrous iawn," meddai Pivac. "Mae wedi bod yn hyfforddi yn y camp am y mis diwethaf ac mae'n dysgu lot ac yn edrych yn dda wrth hyfforddi felly mae'n cael cyfle."

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alun Wyn Jones yng ng锚m gyntaf Cyfres yr Hydref eleni yn erbyn Seland Newydd

Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae ei 167fed g锚m ryngwladol. Dyma fydd y tro cyntaf iddo ddechrau g锚m i Gymru ers colli i'r Eidal ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.

Daeth ymlaen i'r maes fel eilydd yn nhair g锚m brawf yr haf yn erbyn De Affrica, ac yng ng锚m gyntaf Cyfres yr Hydref eleni yn erbyn Seland Newydd, ond cafodd ei adael o'r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Ariannin a Georgia.

Mae'r asgellwr Dyer a'r maswr Anscombe wedi eu dewis yn lle Adams a Priestland, sydd ar y fainc.

Mae Pivac hefyd wedi ffafrio profiad wrth ddewis Jones, Faletau, Halfpenny, George North, Ken Owens a'r capten Justin Tipuric.

Mae prop y Gweilch Tomas Francis yn dychwelyd i'r fainc ar 么l colli'r fuddugoliaeth yn erbyn Ariannin a'r golled i Georgia.

T卯m Cymru i wynebu Awstralia:

Halfpenny; Cuthbert, North, Hawkins, Dyer; Anscombe, T Williams; G Thomas, Owens, D Lewis, Beard, Alun Wyn Jones, Morgan, Tipuric (capten), Faletau.

Eilyddion: Elias, R Jones, Francis, Carter, Macleod, Hardy, Priestland, Adams.