Cei Connah i herio'r Bala yn ffeinal Cwpan y Gynghrair
- Cyhoeddwyd
Cei Connah a'r Bala fydd yn herio'i gilydd yn ffeinal Cwpan y Gynghrair yng Nghymru ar 么l ennill eu gemau cynderfynol brynhawn Sadwrn.
Fe wnaeth Y Bala drechu Met Caerdydd 2-0 yn y rownd gynderfynol, gyda Chris Venables a Dave Edwards yn rhwydo.
2-0 oedd canlyniad y g锚m arall hefyd, gyda Callum Bratley a Michael Wilde yn sgorio wrth i Gei Connah guro Ffynnon Taf.
Cei Connah ydy deiliaid y gystadleuaeth, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Cwpan Nathaniel MG.