Er y siom, 'fyswn i'm 'di methu fo am y byd'
- Cyhoeddwyd
Doedd 'na fawr o ddicter ymhlith cefnogwyr Cymru wrth adael Stadiwm Ahmad Bin Ali nos Fawrth, er gwaetha'r golled o 3-0 i Loegr.
Siom yn sicr, a sawl un - yn gwbl ddealladwy - ddim mewn unrhyw hwyliau i stopio a gorfod ail-fyw'r profiad o flaen camera a meicroffon.
Ond roedd y teimlad o falchder hefyd yn amlycach na'r un emosiwn arall, wrth i'r Wal Goch wasgaru a pharatoi i hedfan adref.
"'Swn i'm 'di methu fo am y byd," meddai Carys Park o Fangor. "'Dan ni 'di bod mor lwcus bod yma a gweld hyn."
Nid bod 'na brinder beirniadaeth, wrth gwrs, a Chymru wedi'r cyfan yn gadael Cwpan y Byd ar 么l methu ag ennill yr un o'u tair g锚m.
Roedd Kevin Davies, o Faentwrog yng Ngwynedd, ymhlith y llif cyntaf o bobl i adael y stadiwm wedi'r chwiban olaf yn erbyn Lloegr.
"Siomedig iawn, roeddan nhw'n wan drwy'r g锚m i gyd," meddai.
Roedd ei fab Daniel wedi disgwyl gweld ymateb cryfach gan y t卯m wedi'r golled yn erbyn Iran, ond mae nawr yn cwestiynu dyfodol y garfan.
"Hwn fydd tro ola' ni yn y World Cup efo'r t卯m yma, y ffordd 'naethon ni berfformio heno, 'sna'm gobaith eto, dwi'm yn meddwl," meddai.
Ychwanegodd ei dad: "'Na i'm gweld o eto de, yn saff i ti."
Mae Louise Edwards o'r Barri, oedd wedi teithio i Doha gyda'i phlant, hefyd yn cytuno ei bod hi'n ddiwedd cyfnod.
"Mae'n siom fawr, yn enwedig i chwaraewyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey sydd ddim yn mynd i gael cynnig eto," meddai.
"Mae'r t卯m 'di bod yn fendigedig i fod yma, ond yn anffodus dyw e jyst ddim 'di gorffen fel byse ni isie."
'Allwn ni'm cwyno gormod'
Fe deithiodd Llion Parry, yn wreiddiol o Lanwddyn ym Mhowys, draw o Awstralia i wylio Cymru yng Nghwpan y Byd eleni.
Er ei fod yn dweud nad oedd y chwaraewyr "wedi troi fyny i'r un g锚m", roedd o ymhlith y cefnogwyr a arhosodd ar 么l ar y diwedd a chanu Hen Wlad Fy Nhadau wrth i'r chwaraewyr ddod draw i'w cyfarch.
"Y ddwy g锚m gynta' oedd y rhai pwysig a naethon ni ddim 'neud be' oedd angen ei 'neud," meddai.
"Ond 'dan ni yma, wedi cael gweld nhw yng Nghwpan y Byd, felly allwn ni'm cwyno gormod, a neis gweld y chwaraewyr off ar y diwedd."
Nid bod hynny wedi newid ei feddwl am leoliad y gystadleuaeth.
"Roedd y profiad o fod yng Nghwpan y Byd yn anhygoel - y profiad o fod yn Qatar, ddim byd sbesial," ychwanegodd.
"Na'i probably ddim dod 'n么l 'ma eto, ddylsa Cwpan y Byd ddim 'di bod yma."
Roedd hi'n bron i awr ar 么l y chwiban olaf nes i rai o gefnogwyr Cymru ymlwybro tuag adref, a sawl un fel Robin Whiteside-Thomas o Lanrug yn cymryd y cyfan i mewn am un tro olaf.
"I gychwyn 'dan ni gyd jyst yn falch bod ni yma, wedi gwatshiad Cymru mewn Cwpan y Byd," meddai.
"I fod bach yn galed ar y chwaraewyr, mae 'na berfformiadau gwell 'sa'n gallu cael eu rhoi.
"Ond 'dan ni'm yn mynd i feio nhw a lluchio nhw dan y bws achos maen nhw 'di cael ni i lle 'dan ni bod yn cr茂o allan am ers 64 mlynedd."
Roedd Nigel Strain o Nebo yng Ngwynedd hefyd yn awyddus i roi pethau mewn persbectif.
"'Dan ni'n wlad o dair miliwn o bobl, 'mond Qatar sy'n llai ac maen nhw 'di mynd yn barod," meddai
"Dwi'n 48 r诺an, erioed 'di gweld Cymru yng Nghwpan y Byd o'r blaen, so mae'n rhaid i ni fod yn falch - fedran ni'm curo bob tro."
A doedd Aled Thomas o Lanbedr Pont Steffan yn sicr ddim am adael i'r canlyniadau ar y cae sbwylio ei brofiad o fod wedi gweld Cymru ar y llwyfan mawr gyda'i lygaid ei hun.
"Ni 'di joio, mae Cymru heb fod ar eu gorau, ond ni 'di cael breuddwydio," meddai.
"Ma' fe really yn dod o'r galon, ma' fe'n rhan o fod yn Gymro. Er colli, ni'n browd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022