Enwi dyn fu farw ar 么l cael ei sathru gan fuwch
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhyddhau enw dyn 75 oed a fu farw ar 么l cael ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o fart yn Sir G芒r.
Roedd Huw Evans yn 75 oed ac o Hendy-gwyn ar Daf.
Cafodd ei sathru wrth gerdded ar Heol y Gogledd yn Hendy-gwyn am tua 10:15 ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd, ar 么l i'r anifail ddianc o fart y dref.
Cafodd Mr Evans ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gan ambiwlans awyr ond bu farw ar ddydd Gwener, 25 Tachwedd.
Mewn teyrnged dywedodd ei deulu: "Roedd Huw yn dad, dad-cu, brawd, ewythr a ffrind i lawer.
"Byddwn am ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra roedd Huw yn yr ysbyty ac ers ei farwolaeth. Rydym yn gwybod faint o golled fydd ar ei 么l."
Mae Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.
Cafodd y fuwch ei difa ar 么l y digwyddiad gan ei bod yn beryglus ac nad oedd modd ei rheoli.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2022