大象传媒

Galw am hyfforddiant i helpu iechyd meddwl myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Tom Kemp
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Tom Kemp gymorth pan oedd ei angen, ond mae'n dweud nad pawb sydd mor ffodus

Mae niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl - ac mae galwad am wneud mwy i hyfforddi gweithwyr prifysgol sydd yn eu cefnogi.

Yn 么l undeb Unsain, sy'n cynrychioli staff sy'n cynorthwyo myfyrwyr, mae gweithwyr yn aml yn gorfod delio gyda myfyrwyr bregus, gan gynnwys rhai sydd yn hunan-niweidio neu yn ystyried lladd eu hunain.

Yn 么l holiadur o dros 12,000 o fyfyrwyr drwy Brydain a gyhoeddwyd ym mis Hydref, roedd 81% yn dweud eu bod nhw wedi dioddef problemau iechyd meddwl.

Roedd hynny'n cael ei ddiffinio fel unrhyw un oedd wedi profi symptomau iechyd meddwl yn y 12 mis diwethaf, wedi profi teimladau hunanladdol, wedi profi trafferthion iechyd meddwl yn y gorffennol neu yn profi problemau iechyd meddwl ar hyn o bryd.

'Pawb ddim yn cael yr un help'

Mae Tom Kemp o Bontypridd yn un sydd wedi profi anhwylderau iechyd meddwl.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Newyddion S4C, esboniodd iddo sylweddoli bod ganddo broblemau iechyd meddwl yn ei ail flwyddyn yn astudio ar gyfer gradd mewn daearyddiaeth.

"Ro'n i'n mynd gartre' a just yn teimlo'n isel, ddim mo'yn 'neud dim byd, mynd syth i'r gwely, ddim mo'yn bwyta."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae pobl yn gwneud eu gorau, ond mae'n rhaid cael hyfforddiant iawn," medd Tom Kemp

"Fi'n berson reallyproactive, fi'n licio 'neud pethau. O'n i just yn teimlo bod dim egni 'da fi, o'n i ddim yn diddori mewn pethau sydd fel arfer yn diddori fi. Just teimlo'n really, reallyisel yn fy hun.

"Es i at y doctor ac yn wreiddiol, roedd oedi hir gyda'r doctor. Nes i aros am chwe mis yn wreiddiol. Wedyn ges i apwyntiad ar 么l apwyntiad ar 么l apwyntiad.

"Hanner ffordd drwy fy nhrydedd flwyddyn, nes i gael diagnosis o iselder, OCD a cyclothymia."

Yn 么l Unsain, mae profiadau fel rhain yn dod yn fwyfwy cyffredin - a rhai myfyrwyr yn dioddef yn enbyd gyda'u hiechyd meddwl.

Mae Katie Hall yn aelod o'r undeb sydd yn rheoli preswylfeydd myfyrwyr ers bron i 20 mlynedd, ac yn dweud bod problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc wedi tyfu'n aruthrol yn y cyfnod yna.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen hyfforddiant ychwanegol ar staff sy'n dod i gysylltiad agos 芒 myfyrwyr, meddai Katie Hall

"Ry'n ni'n gweld myfyrwyr sydd yn byw gyda gorbryder, panic attacks, hunan-niweidio ac hyd yn oed hunan-laddiadau," meddai.

Mae hi'n galw am ragor o hyfforddiant i staff sydd yn delio a myfyrwyr bregus yn aml.

"Dyw'r ymwybyddiaeth ddim yna, dwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli pa mor agos ry'n ni'n dod at y myfyrwyr a'n bod ni'n gweld hyn i gyd gyda'n llygaid ein hunain.

"Mae angen mwy o hyfforddiant. Mae problemau iechyd meddwl ar gynnydd ac felly mae angen cynyddu'r hyfforddiant sydd ar gael hefyd."

'Awyddus i glywed mwy'

Dywedodd corff Prifysgolion Cymru bod iechyd a lles myfyrwyr a staff yn flaenoriaeth iddyn nhw a'u bod am sicrhau bod prifysgolion yn llefydd diogel ac iach i astudio, gweithio a byw.

Mewn datganiad, dywedon nhw: "Rydyn ni'n cydnabod y r么l bwysig sydd gan staff ar y rheng flaen wrth gefnogi myfyrwyr gyda'u hiechyd meddwl.

"Mae'n bwysig bod gan gydweithwyr hyfforddiant a chefnogaeth addas sy'n eu galluogi i ymateb i fyfyrwyr sydd yn profi anawsterau yn hyderus.

"Mae ein prifysgolion a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn dulliau strategol i iechyd meddwl sydd yn cynnwys hyfforddi staff.

"Mae sefydliadau yn cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ac hyfforddiant arall, er mwyn cefnogi lles staff ac er mwyn eu galluogi i gyfeirio myfyrwyr at gefnogaeth arbenigol ac addas o fewn i'r brifysgol, neu i roi cymorth cychwynnol eu hunain os oes ganddyn nhw'r sgiliau i wneud hynny.

"Mae lle o hyd i wneud rhagor ac ry'n ni'n awyddus i glywed sut allwn ni ateb y galw."

Erbyn hyn mae Tom Kemp yn swyddog sabothol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae'n dweud ei fod wedi "dysgu byw" gyda'i broblemau iechyd meddwl yn hytrach na "dioddef".

Dyw hi ddim yn syndod iddo bod cymaint o fyfyrwyr yn dweud eu bod nhw'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl, ac mae hefyd yn galw am ragor o hyfforddiant i helpu rhai sydd mewn argyfwng.

"Ges i brofiad reallydda gyda'r brifysgol a chael yr help ro'n i angen. Ond nawr, fel swyddog sabothol, dwi'n gweld bod lot fawr o anghysonderau - dyw pawb ddim yn cael yr un driniaeth.

"Yn bendant byswn i'n lico gweld mwy [o hyfforddiant i staff prifysgol]. Mae'n bwnc mae'n rhaid i chi fod mor sensitif amdano fe.

"Mae'r undeb wedi talu i fi gael hyfforddiant iechyd meddwl ac roedd hwnna'n gr锚t achos fi yn teimlo nawr fi yn gallu delio 芒 problemau os yw myfyrwyr yn dod ata i.

"Mae pobl yn gwneud eu gorau, ond mae'n rhaid cael hyfforddiant iawn."