Dewis artist ar gyfer cerflun Arglwyddes Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae cerflunydd wedi ei ddewis i greu cerflun yng Nghasnewydd o'r swffrag茅t, Arglwyddes Rhondda.
Mae Jane Robbins wedi'i chomisiynu i greu'r pedwerydd o bum cerflun o fenywod ysbrydoledig Cymreig.
Bydd y gofeb yn cael ei chodi yn dilyn ymgyrch genedlaethol i anrhydeddu arwresau cudd Cymru, a ddarlledwyd gan 大象传媒 Cymru yn 2019.
Fe wnaed y cyhoeddiad ar raglen Lynn Bowles ar 大象传媒 Radio Wales brynhawn Sul.
'Pwysig dal y person'
Roedd Arglwyddes Rhondda yn swffrag茅t, yn ddynes fusnes, yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb menywod.
Arweiniodd ei hymgyrch 40 mlynedd at ferched yn gallu eistedd yn Nh欧'r Arglwyddi.
Yn anffodus bu farw ychydig cyn i'r gyfraith y bu'n ymladd mor daer drosti gael ei chyflwyno.
Mae gwaith blaenorol Jane Robbins yn cynnwys cerflun o'r ffotograffydd Americanaidd Linda McCartney yn yr Alban, a phenddelw o arweinydd y Swffragetiaid, Emmeline Pankhurst ym Manceinion.
Dywedodd: "Fel cerflunydd benywaidd, rwy'n frid prin - mae cerflunwaith yn fyd sy'n cael ei reoli gan ddynion.
"Rwy'n hoffi meddwl y byddai Arglwyddes Rhondda yn falch i mi gael fy newis i greu ei cherflun.
"Gyda cherflunwaith coffa rwy'n credu ei fod yn bwysig portreadu person fel yr oedd mewn bywyd.
"Hoffwn ddathlu'r ddynes a chipio'r urddas a feddai drwy gydol ei bywyd a'i gwaith."
Dywedodd Helen Molineux o Monumental Welsh Women: "Roedd cyflawniadau Arglwyddes Rhondda yn enfawr ac amrywiol - o'i hymgyrchu gwleidyddol i'w llwyddiannau busnes arloesol, i'w newyddiaduraeth ddylanwadol."
'Adlewyrchu stori Casnewydd'
Dyma'r pedwerydd cerflun i'w gomisiynuu i ddathlu llwyddiannau arwresau cudd Cymru.
Cafodd cerflun o Betty Campbell, pennaeth ysgol croenddu cyntaf Cymru, ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ym mis Medi 2021 a chafodd cerflun o Elaine Morgan, damcaniaethwr a dramodydd esblygiadol, ei ddadorchuddio yn Aberpennar fis Mawrth eleni.
Bydd trydydd, sef Cranogwen, y forwraig a bardd, yn cael ei ddadorchuddio fis Mehefin blwyddyn nesaf.
Mae Monumental Welsh Women hefyd yn anelu at gyflwyno eu cerflun olaf o'r ymgyrchwyr gwleidyddol sef Elizabeth Andrews.
Dywedodd Julie Nicholas, o Ymgyrch Cerflun i Arglwyddes Rhondda: "Cytunodd y panel fod syniad Jane ar gyfer y cerflun, nid yn unig yn cynrychioli stori Arglwyddes Rhondda a'i llwyddiannau niferus, ond hefyd yn adlewyrchu'n glyfar stori Casnewydd, lle bydd y cerflun yn cael ei leoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018