Ymosodiad ci Caerffili: Dynes, 83, a dyn, 55, yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi dioddef anafiadau sy'n peryglu ei bywyd ar 么l i gi ymosod arni yng Nghaerffili.
Mae dau ddyn 20 a 31 oed, a menyw 28 oed, oll yn dod o'r ardal, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth.
Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i d欧 yn Heol Fawr, tua 15:15 brynhawn Sadwrn.
Aeth yr heddlu, yn cynnwys plismyn arfog, i'r t欧, lle canfuwyd dynes 83 oed gydag anafiadau difrifol sy'n peryglu ei bywyd.
Roedd dyn 55 oed hefyd wedi dioddef m芒n anafiadau ac aethpwyd 芒'r ddau i'r ysbyty gan barafeddygon.
Cafodd y ci ei ddifa, ond nid yw'n eglur ar hyn o bryd pa fath o gi oedd o.
Mae'r tri gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau ar fechn茂aeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon tri ambiwlans brys, un cerbyd ymateb cyflym, rheolwr gweithredol ar ddyletswydd i'r safle, a bod Ambiwlans Awyr Cymru a th卯m o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) wrth law yn cefnogi.
"Cafodd dau berson eu cludo ar yr heol i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd am driniaeth bellach," meddai.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Sedgebeer o Heddlu Gwent bod eu hymchwiliadau'n parhau.
"Mae'n bosib y gwelwch chi weithgaredd parhaus gan yr heddlu yng Nghaerffili fel rhan o'r gwaith hwn, ond peidiwch 芒 dychryn.
"Os oes gennych chi bryderon neu wybodaeth, yna pl卯s, stopiwch i siarad gyda ni."