大象传媒

Senedd Cymru'n cymeradwyo gwaharddiad plastigau untro

  • Cyhoeddwyd
Bagiau plastigFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd nwyddau plastig tafladwy sy'n cael eu defnyddio unwaith yn cael eu gwahardd yng Nghymru o Hydref 2023.

Mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo gwaharddiad ar ddefnyddio eitemau plastig fel cyllyll a ffyrc, gwellt, trowyr diodydd a bagiau siopa.

Mae gweddill y Deyrnas Unedig eisoes yn gwahardd gwellt plastig, ffyn cotwm a throwyr, ond does dim un o'r pedair gwlad wedi atal gwerthu bagiau plastig untro eto.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James mai "nawr yw'r amser i bob un ohonom feddwl yn wahanol a newid ein harferion er mwyn osgoi gadael gwaddol o wastraff plastig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno'r newid yn gynharach, ond dywedon nhw fod deddfwriaeth 么l-Brexit wedi cymhlethu'r broses.

Pan ddaw i rym, fe fydd y ddeddf yn gwahardd:

  • Cyllyll a ffyrc, platiau a throwyr;

  • Gwellt yfed (gydag eithriad ar gyfer anghenion meddygol neu ofal);

  • Ffyn cotwm;

  • Ffyn bal诺n;

  • Cynwysyddion tecaw锚 polystyren, cwpanau a chaeadau;

  • Bagiau siopa plastig tenau untro.

Ychwanegodd Ms James: "Yn ogystal 芒 bod yn hyll, mae plastigau untro yn ddinistriol dros ben i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd.

"Mae angen ymdrech t卯m er mwyn adeiladu Cymru wyrddach. Mae'r gyfraith newydd hon yn adeiladu ar ymdrechion cymunedau, busnesau a phobl ifanc sydd eisoes wedi dewis mynd yn ddi-blastig."

Dywedodd: "Byddwn yn parhau i weithio gyda'r byd diwydiant, busnesau, cyrff y trydydd sector, y byd academaidd, ac eraill - gan sicrhau ein bod yn ffarwelio am byth 芒'r pla plastig hwn sy'n cael ei daflu'n sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau a'n moroedd."

Pynciau cysylltiedig