大象传媒

Cymdeithas B锚l-droed Cymru i drafod parhau gyda noddwr brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Y FrenhinesFfynhonnell y llun, Max Mumby/Indigo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Frenhines oedd noddwr Cymdeithas B锚l-droed Cymru tan ei marwolaeth fis Medi

Bydd Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn trafod a ddylid parhau gyda noddwr brenhinol yn y dyfodol.

Yn dilyn marwolaeth y Frenhines yn gynharach eleni, mae adroddiadau wedi bod yn y wasg y gallai Tywysoges Cymru gymryd drosodd yr awenau.

Ond mae prif weithredwr CBDC wedi cadarnhau y bydd trafodaethau yn 2023 yngl欧n 芒 pharhau i gael aelod o'r teulu brenhinol yn y swydd seremon茂ol.

Ychwanegodd Noel Mooney fod bwriad i barhau gyda gemau p锚l-droed yng Nghymru ar 6 Mai, sef diwrnod coroni'r Brenin Charles yn Abaty Westminster.

'Sensitif iawn'

Yn dilyn ymateb chwyrn gan rai cefnogwyr i adroddiadau y gallai Catherine gymryd drosodd fel noddwr y gymdeithas, dywedodd Mr Mooney y byddan nhw'n ceisio canfod beth yw'r farn gyffredinol.

"Mae'n cael ei adolygu," meddai. "Rydyn ni bob amser yn edrych i weld beth sy'n iawn i'r Gymdeithas B锚l-droed, beth yw'r peth iawn i ni fel gwlad i'w wneud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Noel Mooney: "Rydyn ni'n sensitif iawn yngl欧n 芒'r materion hyn"

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n edrych ar yr holl beth, beth yw'r manteision i b锚l-droed Cymru.

"Ar yr un pryd dydyn ni ddim eisiau dod yn sefydliad sy'n rhwygol oherwydd yr angen i fod yn sefydliad sy'n gynhwysol i bawb.

"Rydyn ni'n sensitif iawn yngl欧n 芒'r materion hyn, ac rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud ein bod ni wedi arddangos llawer o barch pan fu farw'r Frenhines.

"Yn y dyfodol mae'n rhaid i ni barhau i feddwl am esblygiad y Gymdeithas a byddwn yn cael trafodaethau i ganfod beth yw barn pobl.

"Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau nad ydyn ni'n gwneud unrhyw beth sy'n rhannu ac yn dieithrio pobl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd adroddiadau yn y wasg y gallai Tywysoges Cymru gymryd yr awenau

Ychwanegodd: "Rydym yn cynrychioli pob sbectrwm gwleidyddol a hanesyddol yng Nghymru, a rhaid inni barhau i wneud hynny.

"Byddwn yn cymryd ein hamser yn 2023 i edrych arno'n iawn.

"Gadewch i ni fesur beth sy'n digwydd o'n cwmpas ni, gweld beth mae sefydliadau eraill yn eu gwneud a beth yw'r awydd (i barhau gyda noddwr brenhinol)."

'Annhebygol iawn'

Fe gafodd y gymdeithas ei barnu gan rai yn sgil penderfyniad i ganslo pob g锚m yng Nghymru ar y penwythnos yn dilyn marwolaeth y Frenhines fis Medi diwethaf.

Daeth y rhan fwyaf o'r feirniadaeth yn sgil atal plant rhag chwarae yn dilyn gohirio gemau timau ieuenctid.

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caernarfon oedd yn fuddugol yng ngemau ail-gyfle y JD Cymru Premier y tymor diwethaf

Ond gyda gemau ail-gyfle y JD Cymru Premier i fod i'w cynnal ar benwythnos coroni Charles, dywedodd ei fod yn "annhebygol iawn" bydd y gemau rheiny yn cael eu gohirio.

"Roedd marwolaeth y Frenhines yn ddigwyddiad hanesyddol iawn," ychwanegodd Mr Mooney.

"Roedd canslo gemau yn rhannu rhai pobl yma, roedd llawer o bobl yn teimlo y dylen ni fod wedi gwneud dau funud o dawelwch yn y gemau.

"Roedd rhai pobl yn teimlo ein bod ni wedi mynd yn rhy bell i ganslo popeth.

"Ond roedd yna deimlad yma bod gennym ni amser yn y calendr i ni allu dangos y parch hwnnw.

"Serch hynny, mae'n annhebygol iawn y byddwn ni'n canslo gemau ym mis Mai."