大象传媒

'Anghywir' i'r fyddin lenwi bwlch staff maes awyr sydd ar streic

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i swyddogion gwirio pasbortau mewn meysydd awyr - gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd - streicio dros gyfnod y Nadolig

Mae'n "gwbl anghywir" i swyddogion y fyddin lenwi bwlch staff meysydd awyr fydd yn streicio dros gyfnod y Nadolig, yn 么l ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS.

Fe rybuddiodd y gallai swyddogion gwirio pasbortau - gan gynnwys ym Maes Awyr Caerdydd - barhau i streicio tan y flwyddyn newydd oni bai bod Llywodraeth y DU yn trafod codi cyflogau.

Mae s么n y gallai'r fyddin ddod i helpu, ond yn 么l undeb y PCS, dydyn nhw heb eu hyfforddi'n ddigonol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "annog yn gryf" y dylai San Steffan ddechrau trafodaethau.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, wedi dweud y bydd yn gweithredu'n erbyn grwpiau sy'n streicio'n "afresymol".

Mae disgwyl i weithwyr rheilffordd, Y Post Brenhinol, nyrsys a'r gwasanaeth ambiwlans i streicio dros gyfnod yr 诺yl hefyd.

Bydd y gweithredu diwydiannol gan swyddogion y ffin yn digwydd dros gyfnod o wyth diwrnod - rhwng 23 Rhagfyr a Nos Galan - ym meysydd awyr Gatwick, Heathrow, Manceinion, Birmingham a Chaerdydd.

Daw hynny oherwydd anghydfod dros gyflogau, ac mae'r undeb yn rhybuddio y gallai'r gweithredu gael ei ymestyn os na wnaiff llywodraeth y DU gynnal trafodaethau.

'Llywodraeth y DU yn delio 芒'r sefyllfa'n gwbl anghywir'

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement fore Sul, dywedodd Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol undeb y PCS na ddylai'r fyddin lenwi bylchau y staff sy'n streicio, yn enwedig "heb hyfforddiant digonol".

"Dw i'n meddwl fod hynny'n dangos fod hon yn lywodraeth sy'n delio 芒'r sefyllfa yn gwbl anghywir.

"Os ydyn nhw'n defnyddio'r fyddin yn ein meysydd awyr ac i yrru ambiwlansys, beth nesaf? A fydd y fyddin yn gyrru trenau ac yn addysgu ac yn sefyll mewn wardiau? Wrth gwrs y gallan nhw ddim."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen Llywodraeth y DU i edrych ar y broblem ehangach yn lle atebion byr dymor, dywedod Mark Serwotka

Dywedodd na ddylai'r llywodraeth geisio chwilio am "ddatrysiadau byr dymor" ond ffocysu ar fynd i'r afael 芒'r "argyfwng gwirioneddol" o dlodi gwaith trwy drafod a negodi.

"Does dim pwynt streicio os na wnaiff unrhyw un sylwi. Ni ddylai unrhyw anniddigrwydd gael ei gyfeirio ar staff, fe ddylai gael ei gyfeirio ar lywodraeth y DU."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ffiniau a pholisi mewnfudo ac rydym yn eu hannog yn gryf i drafod gyda'r PCS i ddatrys yr anghydfod hwn.

"Byddem yn annog pobl i wirio cyn teithio."

Wrth siarad yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd y prif weinidog Rishi Sunak ei fod yn gweithio ar "gyfreithiau newydd, caled" i atal pobl rhag gweithredu'n ddiwydiannol.

"Os yw arweinwyr undebau yn parhau i fod yn afresymol, yna fy nghyfrifoldeb i yw gweithredu er mwyn gwarchod bywydau a bywoliaeth pobl Prydain," ychwanegodd.