Cyngor Conwy i godi treth o 50% ar ail gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Conwy wedi penderfynu codi premiwm o 50% ar y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn y sir, a hynny o Ebrill 2023.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr o blaid y newid, a hynny yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf i ystyried yr effaith "ar dwristiaeth, yr iaith Gymraeg a thai fforddiadwy".
Bydd premiwm y dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hefyd yn cynyddu i 100% y flwyddyn ganlynol, os nad yw cynghorwyr yn newid eu meddyliau yn y cyfamser.
Mae cynghorau eraill eisoes wedi cyflwyno newidiadau tebyg, a hynny yn dilyn pryderon am effaith ail gartrefi ar brisiau tai a chymunedau yn yr ardaloedd hynny.
Effaith ar gymunedau
Ddechrau fis Rhagfyr fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd, y sir sydd 芒'r nifer uchaf o ail gartrefi drwy Gymru, o blaid cynyddu'r dreth ar ail gartrefi o 100% i 150%.
Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru roi'r grym i awdurdodau lleol godi'r trethi hyd at 300% o fis Ebrill 2023, ac i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi.
Mae Abertawe a Sir Benfro ymhlith y cynghorau sydd eisoes yn codi 100% o dreth ar ail dai, tra bod nifer o siroedd eraill hefyd wedi cyflwyno'r premiwm bellach.
Dywedodd Cyngor Conwy mai bwriad cynyddu'r dreth oedd "i annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn 么l i ddefnydd a chefnogi'r cynnydd mewn tai fforddiadwy ar gyfer eu prynu neu eu gosod mewn cymunedau lleol".
Roedd y cyngor wedi tynnu'n 么l o benderfyniad i gyflwyno newid tebyg y llynedd, yn dilyn pryderon y byddai perchnogion ail dai yn penderfynu dynodi eu cartrefi yn dai gwyliau masnachol yn lle hynny.
Mae ymgyrchwyr ar draws Cymru wedi codi pryderon dros y blynyddoedd diwethaf bod cynnydd yn nifer yr ail gartrefi yn arwain at ddiffyg tai fforddiadwy i bobl sydd am aros i fyw yn y cymunedau hynny.
Yn ogystal, mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith a Hawl i Fyw Adra yn dweud bod hynny'n arwain at ddirywiad yn yr iaith Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd yng ngogledd a gorllewin Cymru sydd wedi dod yn gynyddol boblogaidd ar gyfer ail dai.
Dangosodd ffigyrau diweddar Cyfrifiad 2021 bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn ym mhob sir yng Nghymru ag eithrio pedwar, gan gynnwys pob un yng ngogledd, canolbarth a gorllewin y wlad.
Conwy yw'r sir sydd 芒'r pumed canran uchaf o siaradwyr Cymraeg - 25.9%, a hynny'n ostyngiad o 1.4% ers Cyfrifiad 2011.
Dywedodd y cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet Cyllid, Refeniw a Budd-daliadau ar Gyngor Conwy eu bod wedi "cymryd yr amser i ystyried y pwnc anodd hwn" cyn dod i'r penderfyniad i godi'r dreth ar ail gartrefi.
"Mae'n bwysig hefyd nodi bod y cyllid o'r premiwm yn parhau i gael ei ddefnyddio i gefnogi cyllideb Tai'r Cyngor sy'n wynebu pwysau cynyddol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022