大象传媒

Chwyddiant yn creu 'storm enfawr' i fusnesau lletygarwch

  • Cyhoeddwyd
peint wrth y bar

Mae busnesau lletygarwch wedi camu o "niwl y pandemig" i "storm enfawr" chwyddiant, yn 么l arbenigwr yn y maes.

Dywed Dr Siwan Mitchelmore o Brifysgol Bangor bod tafarndai a bwytai yn dioddef wrth i gostau gynyddu, tra bod cwsmeriaid yn gwario llai.

Mae rhai landlordiaid wedi penderfynu gadael y diwydiant yn gyfan gwbl.

Mae'r ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd fore Mercher, yn dangos fod cyfradd chwyddiant wedi gostwng ychydig i 10.7%.

Dyma'r ail gyfradd uchaf ers dros 40 mlynedd - 11.1% oedd y ffigwr ym mis Hydref.

Mae'r ffigwr diweddaraf yn golygu fod prisiau'n dal i godi, ond ar gyflymder arafach, ond mae'n awgrymu fod pethau'n gwella yn araf bach.

Beth yw chwyddiant?

Chwyddiant yw faint mae prisiau yn codi dros gyfnod o amser, ac mae'n cael ei fesur gan y Swyddfa Ystadegau.

Fel arfer mae'r ffigwr yn cael ei ddangos mewn cymhariaeth 芒'r un adeg y flwyddyn gynt.

Os yw chwyddiant yn 10%, er enghraifft, mae'n golygu bod prisiau nwyddau ar gyfartaledd 10% yn uwch nag oedden nhw llynedd (ond gall rhai pethau fod wedi codi'n uwch na 10%, tra bod eraill heb wneud cymaint).

Os nad yw cyflogau pobl wedi codi yr un faint dros yr un cyfnod, mae'n golygu nad yw'r arian sy'n eu pocedi yn mynd mor bell ag yr oedd o.

I fusnesau hefyd, mae chwyddiant yn golygu cynnydd yn eu costau, ac felly'n gallu arwain at orfod cynyddu prisiau er mwyn sicrhau bod dal modd gwneud elw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Siwan Mitchelmore bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'r maes lletygarwch

Costau'n cynyddu

"Mae cwsmeriaid yn meddwl yn ofalus iawn am sut a ble maen nhw yn gwario eu harian," meddai Dr Mitchelmore.

"Mae hyn y golygu bod tafarndai wedi eu gwasgu ar y ddau ben. Nid yn unig mae ganddyn nhw gostau uchel, ond hefyd does 'na neb yn prynu."

Mae chwyddiant wedi bod yn codi ers i'r cyfyngiadau Covid ddod i ben y llynedd.

Tra bod aelwydydd wedi gweld biliau ynni a thanwydd yn codi, a'r siop wythnosol yn mynd yn ddrutach, mae busnesau hefyd wedi gorfod ymdopi 芒'r cynnydd yn eu biliau.

Dywedodd Dr Mitchelmore bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'r maes lletygarwch.

"Dod allan o niwl y pandemig, a wedyn camu fewn i storm enfawr o gostau cynyddol a chwyddiant," meddai.

"Mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac yn ymarferol mae hynny'n golygu bod costau deunyddiau, costau cynhyrchu i gyd yn codi."

Ym mhentref Llangatwg ger Castell-nedd mae Rhian Davies a'i phartner Michael Mangan yn paratoi i roi'r gorau i redeg tafarn y Crown and Sceptre.

Tra bod Rhian wedi gweithio mewn tafarndai ers bron i 40 mlynedd, mi fydd hi'n gadael y diwydiant pan ddaw ei chytundeb presennol i ben ymhen dwy flynedd.

"Mae'n galed ar hyn o bryd - oriau hir," meddai. "Dwi yn joio'r gwaith, ond mae wedi newid.

"Roedd Covid wedi dod mewn a newid lot o bethau, ond prisiau yw'r prif rheswm [i fod yn ddigalon], a dweud y gwir. Prisiau trydan, ond mae popeth wedi mynd lan - y bwyd, cwrw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Rhian Davies ddim yn bwriadu parhau i redeg y dafarn pan ddaw ei chytundeb i ben

Yn y flwyddyn newydd bydd rhaid i'r Crown and Sceptre godi 60c yn ychwanegol am beint o gwrw.

"Dwy flynedd sydd gyda ni ar 么l fan hyn, ac awn ni ddim mewn i dafarn eto," meddai Rhian. "Mae hynny'n drist i ddweud.

"Dwi ddim yn gweld lot o bobl ifanc yn dod lan chwaith. Maen nhw yn mynd i lefydd eraill nawr - nagw i'n beio nhw - ond mae'n naw tan bump, wyth awr y dydd. Bye-bye a dim pressure.

"Dim gwneud llyfrau, neu mynd lawr y seler. Trueni, achos mae eisiau tafarnau yn y pentre i bobl gael cwrdd am sgwrs."

Yn y gegin mae Michael yn gorfod paratoi bwyd sydd bellach yn fwy costus, ac wedyn ei weini i'r cwsmeriaid hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michael bellach yn gorfod gwneud llawer mwy o'r gwaith ei hun ar yr ochr arlwyo

"O'n i fel arfer gyda dau neu dri pherson yn gweithio yma gyda ni - dim ond fi a Rhian sydd yma nawr," meddai.

"Byddwn i ddim yn dod 'n么l mewn i'r busnes hyn.

"Fydde rhaid i rywun feddwl yn galed amdano hwn [y dafarn], achos mae'r gost o redeg y busnes lot rhy uchel o gymharu 芒'r arian sydd mas yna i bawb ddod mewn i gefnogi chi."

Mae'n gyfnod heriol iawn i'r diwydiant lletygarwch, a'r pryder yw y gallai nifer o fusnesau fynd i'r wal yn y flwyddyn newydd wrth i gostau cynyddol achosi'r esgid i wasgu ar berchnogion a'u cwsmeriaid.

Pynciau cysylltiedig