大象传媒

Eisteddfod Rhondda Cynon Taf: Cyfle i adeiladu ar 'fwrlwm' lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld a Rhondda Cynon Taf yn 2024 ond dydi'r safle penodol heb ei benodi eto.

Mae'n bwysig bod Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn "adeiladu" ar gynnydd diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn lleol.

Dyna farn cadeirydd newydd pwyllgor gwaith y brifwyl wrth i ardal Rhondda Cynon Taf estyn croeso am y tro cyntaf ers cynnal y brifwyl yn Aberd芒r yn 1956.

Yn hanu o Donyrefail ac wedi ei phenodi i'r swydd yr wythnos hon, bwriad Helen Prosser yw manteisio ar y "bwrlwm" ynghylch y Gymraeg yn lleol, ac estyn allan i fwy o bobl dros y ddwy flynedd i ddod.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd bod cyfleoedd i adeiladu ar waith sydd eisoes wedi ei wneud i godi statws yr iaith yn yr ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Prosser: "Yn Rhondda Cynon Taf mi welon ni gynnydd bychan felly mae'n gyfle i ni adeiladu ar y momentwm yna"

"Yn amlwg da ni ar ddechre'r daith a bydd y bwrlwm yn dechre yn y flwyddyn newydd," meddai.

"Mae'n rhaid i mi ddweud, mae bwrlwm y Gymraeg eisoes gyda ni yn yr ardal hon, felly nid creu bwrlwm bydd yr Eisteddfod ond ychwanegu at y bwrlwm sydd eisoes yn bod.

"Mae 'na ormod o grwpiau ac unigolion a llefydd i mi eu henwi, ond wrth gwrs cyfle enfawr yr Eisteddfod yw cyrraedd rhagor o bobl, denu rhagor o bobl."

'Ceisio estyn mas'

Yn 么l ffigyrau Cyfrifiad 2021 roedd y sir yn un o ond pedair ar draws y wlad a welodd gynnydd yn y canran o siaradwyr Cymraeg.

"Pan welon ni ganlyniadau'r cyfrifiad oeddwn yn teimlo bod e'n alwad i weithredu, yn Rhondda Cynon Taf mi welon ni gynnydd bychan felly mae'n gyfle i ni adeiladu ar y momentwm yna", ychwanegodd.

"Mae 'na gymaint o gyfleoedd i ni geisio estyn mas i'r bobl ifanc - a ddim mor ifanc erbyn hyn - sydd wedi bod drwy addysg Gymraeg yn yr ardal i ddangos bod y Gymraeg yn dal i fod yn berthnasol iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew White a Iolo Roberts hefyd wedi eu penodi i bwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2024

Gydag union safle'r brifwyl heb ei ddewis eto, a dim disgwyl cyhoeddiad am sawl mis eto, ychwanegodd mai'r "her a'r cyfle" oedd cynnwys ardaloedd y Rhondda, Cynon a Taf fel rhan o'r paratoadau.

Ond gydag Andrew White o Lanharan hefyd wedi'i ethol yn is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac Iolo Roberts yn gadeirydd y gronfa leol, ychwanegodd bod y brifwyl yn "gyfle gwych i ddod 芒'r ardal at ei gilydd".

"Byddwn yn gwneud ein gorau glas, bydd na lawer iawn o wirfoddolwyr tu 么l i'r tri phrif swyddog sydd wedi eu cyhoeddi."