Pennaeth a bwrdd newydd i gwmni sy'n hybu'r celfyddydau
- Cyhoeddwyd
Mae'r celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hamddifadu, yn 么l cadeirydd newydd cwmni sy'n hyrwyddo'r diwylliant a'r celfyddydau Cymreig.
Yr actores ac awdures Ffion Dafis yw cadeirydd newydd cwmni Pyst Cyf, sydd hefyd wedi penodi bwrdd rheoli newydd fydd yn weithredol am y tair blynedd nesaf.
Mae'r cwmni, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhedeg dau wasanaeth hybu'r celfyddydau - gwefan ac ap AM, a system ddosbarthu cerddoriaeth digidol PYST.
Mae AM yn cynnwys gwybodaeth, cysylltiadau, rhestrau digwyddiadau, a dros 350 o sianelau sydd yn gyfuniad o sefydliadau ac unigolion creadigol yng Nghymru.
Cafodd ei sefydlu yn 2020 ac, yn 么l y cwmni, daeth 250,000 o ddefnyddwyr i'r wefan yn y 12 mis diwethaf.
'Hanfodol'
Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd Ffion Dafis: "Mae'r celfyddydau yng Nghymru yn cael eu hamddifadu ar ormod o lefelau.
"Mae platfform AM yn cynnig lloches i'r rhai sy'n creu. Tydy o'n ddim byd llai na hanfodol.
"Fy mraint yw cael cadeirio bwrdd o bennau creadigol mwyaf blaenllaw Cymru."
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd y byddai pob un o aelodau'r bwrdd newydd "yn dod 芒'i ogwydd ei hun, ei gryfder ei hun" wrth geisio "hyrwyddo'r maes celfyddydol, diwylliannol Cymreig".
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig nawr i'r t卯m newydd hefyd fynd ati i hyrwyddo'r platfform yn ehangach.
"Dydi AM ddim wedi bod yn marchnata yn y gorffennol," meddai.
"Ond r诺an 'dan ni isio gwneud yn si诺r yn enwedig dros y Nadolig - cyfnod lle mae cymaint o raglenni a ffilmiau gwahanol - beth am ehangu gorwelion a thiwnio mewn i rywbeth sydd ddim yn eich cylch celfyddydau 'diogel' chi?"
Sefydlwyd PYST fel gwasanaeth dosbarthu cerddoriaeth yn 2018.
Dywedodd Alun Llwyd, prif weithredwr Pyst Cyf, bod y pandemig wedi effeithio ar y cwmni "fel pawb arall" ond bod eu cynulleidfa wedi cynyddu ar y ddau wasanaeth yn y cyfnod hwnnw.
Ond bu hynny'n gyfle hefyd, meddai, wrth i artistiaid "ddatblygu creadigrwydd... i ddefnyddio'r platfformau digidol" mewn modd nad oedden nhw gynt.
"Mae'r cyfnod nesa' sydd o'n blaenau ni yn mynd i fod yn gyfnod o hyrwyddo'r diwylliant a'r celfyddydau yng Nghymru a'u gwneud yn fwy cymunedol ac yn fwy cynhwysol," meddai.
"Dydan ni ddim wedi gwario arian ar farchnata, achos roeddan ni'n ei ddefnyddio i gadw'r gwasanaeth i fynd yn ystod y pandemig.
"Ond mae'r ddau blatfform wedi tyfu yn naturiol, wrth i'r gair fynd o gwmpas ar lafar ac wrth i bobl eu defnyddio."
Aelodau eraill y bwrdd yw:
Nico Dafydd - awdur-gyfarwyddwr ac ysgogydd creadigol
Owain Gwilym - cerddor ac ymchwilydd sy'n gweithio i Gelfyddydau Anabledd Cymru
Osian Gwynn - cyfarwyddwr canolfan Pontio, Bangor
Seren Jones - newyddiadurwraig a chynhyrchydd podlediadau
Angharad Lee - cyfarwyddwr theatr a sylfaenydd Cynyrchiadau Leeway
Efa Lois - arlunydd ac awdur sydd 芒 chefndir ym maes pensaern茂aeth
Mike Parker - awdur, darlledwr ac ymgyrchydd
Jalisa Phoenix-Roberts - cantores, actores a pherchennog busnes
Casia Wiliam - bardd ac awdur sy'n gweithio i'r mudiad gweithredu ar newid hinsawdd, GwyrddNi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021