Llyncu E coli yn 'brofiad erchyll' i fenyw o Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Ar 么l blwyddyn yn Sbaen fel rhan o'i chwrs gradd, roedd Caitlin Edwards yn edrych ymlaen i fwynhau amser gyda'i theulu a nofio bob dydd ar hyd arfordir Sir Benfro dros yr haf eleni.
Bwriad y fyfyrwraig 22 oed o Ddinbych y Pysgod oedd mwynhau amser yng nghwmni ei mam, Jayne Etherington, tra'n gwneud rhywbeth llesol.
Ar 25 Awst nofiodd Caitlin ger draeth Amroth. Dridiau yn ddiweddarach dechreuodd hi ddioddef o boenau stumog a dolur rhydd.
Dyma gychwyn salwch difrifol yn deillio o lyncu E coli wnaeth arwain at haint yn peryglu ei bywyd ac achosi HUS (haemolytic uraemic syndrome), cyflwr prin sy'n niweidio'r arennau.
Bu Caitlin yn yr ysbyty am dair wythnos yn ddifrifol wael gyda'i arennau yn methu ac yn cael trallwysiadau gwaed a dialysis.
Esboniodd wrth Cymru Fyw: "O'n i'n meddwl taw cramps stumog oedd e pan ddechreuodd y poenau, bosib rhywbeth o'n i wedi bwyta. Ond aeth yn waeth ac yn waeth nes oedd rhaid i fi fynd i A&E."
Yn yr ysbyty cafodd Caitlin ddeiagnosis o haint yn deillio o E coli gyda chymhlethdodau oherwydd HUS. Heb yn wybod iddi hi a'i mam roedd carthion wedi eu gwaredu ym Mhont-yr-诺r (Wiseman's Bridge), traeth rhyw filltir o Amroth, gan system breifat trin a gwaredu carthion gyda chaniatad.
Ar yr un pryd roedd system gorlifo adeg storm D诺r Cymru wedi rhyddhau d诺r gwastraff yn dilyn glaw trwm, yn gyfagos i Bont-yr-诺r ac hefyd ger Ystagbwll (Stackpole) a Chilgeti felly bu rhybudd pellach am ansawdd d诺r yn yr ardal gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y digwyddiadau hyn hefyd.
Meddai Caitlin am ei chyfnod yn yr ysbyty: "Dwi ddim yn cofio'r dyddiau cyntaf, o'n i mor ddryslyd. O'n i'n teimlo'n ofnus iawn ac o'n i ar painkillers cryf a'n cadw gweld pethau oedd ddim yno. O'n i'n ofidus iawn ac methu codi o'r gwely am bythefnos."
Roedd yn brofiad anodd i'r teulu cyfan, fel mae mam Caitlin, Jayne Etherington, yn esbonio: "Roedd yn brofiad erchyll, fel hunllef. Mae'r ddwy ohono ni eisiau i gynifer o bobl 芒 phosib i fod yn ymwybodol o beryglon gwaredu carthion oherwydd roedd hi mor enbyd o s芒l.
"Mae'n anodd deall sut aeth hi o fod yn ferch 21 oed a'n gwbl ffit ac iach i fod yn yr ysbyty yn cael trallwysiadau gwaed a dialysis.
"Roedd hi'n ofnadwy o s芒l oherwydd ei bod wedi gwneud rhywbeth iach.
"Sylweddolon ni bron yn syth taw gwaredu carthion yn yr ardal oedd wedi arwain at y salwch - roedd cwpl o erthyglau yn lleol ond roedd hefyd ar y newyddion cenedlaethol.
Rhybudd
"Ym Mhont-yr-诺r oedd y gwaredu carthion wedi digwydd ac mae'n lle gwyliau poblogaidd. Roedd rhybudd ar y traeth yno am y gwaredu carthion ar Awst 24 (gan system breifat trin a gwaredu carthion gyda chaniatad) felly roedd y cyhoedd yn gwybod amdano."
Ond doedd Caitlin ddim wedi gweld unrhyw rybuddion iechyd cyhoeddus am garthion yn Amroth pan nofiodd yno ar 25 Awst, ddiwrnod ar 么l y gwaredu carthion ym Mhont-yr-诺r.
Dywedodd: "Cafodd y carthion eu gwaredu ar draeth Pont-yr-诺r yn y dyddiau cyn hynny ac roedd arwydd ar draeth Pont-yr-诺r ond dwi'n eitha si诺r nad oedd unrhyw arwyddion yn Amroth.
"Roedd lot o bobl yn y d诺r a dwi'n cofio gweld tad-cu gyda bachgen bach oedd tua tair mlwydd oed. Mae'n codi ofn arna'i y byddai'r salwch hyn wedi gallu digwydd i unrhyw un. Gallai'r plentyn yna fod wedi datblygu HUS a pheidio gwella ohono."
System gorlifo
Mae carthion yn cael eu gwaredu pan mae system gorlifo adeg storm yn rhyddhau carthion mewn glaw trwm. Dyma sy'n digwydd pan mae'r rhwydwaith d诺r gwastraff yn cyrraedd ei gapasati. Mae cwmn茂au d诺r wedi dibynnu ar y system hyn ers degawdau - ond mae mwy o sylw wedi cael ei roi i'r pwnc eleni gyda nifer o nofwyr a syrffwyr yn s么n am weld carthion yn y d诺r dros yr haf.
Cysylltodd Jayne gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru yngl欧n 芒 salwch Caitlin a bu'r corff yn ymchwilio.
Ar 么l edrych ar yr holl wybodaeth am ble oedd Caitlin wedi bod a beth oedd hi wedi ei wneud a'i fwyta dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai'r rheswm mwyaf tebygol am salwch Caitlin oedd ei bod wedi llyncu E coli yn deillio o garthion heb eu trin yn y d诺r. Y strand o E coli wnaeth achosi ei salwch oedd 0157, sy'n gysylltiedig 芒 charthion.
Dywedodd Jayne: "Beth dwi'n poeni fwyaf amdano yw bod pobl yn ei gymryd o ddifri os maen nhw'n clywed am waredu carthion yn y d诺r lle maen nhw'n nofio.
"Wnes i ddim sylweddoli pa mor ddifrifol wael chi'n gallu bod ar 么l nofio (mewn d诺r lle mae carthion).
"Roedd arwydd o rybudd i fyny ar Bont-yr-诺r ond doedd e ddim yn amlwg iawn ac roedd yn dweud bod amheuaeth fod digwyddiad carthion.
"Ac mewn prif lythrennau roedd yn dweud fod y traeth yn dal ar agor.
"Mae'n rhaid stopio. Mae llawer o gyhoeddusrwydd fod y broblem yn deillio o'n systemau carthffosiaeth Fictoraidd sy' ddim yn gallu ymdopi mwyach.
"Mae'n mynd i gymryd rhywun yn marw i rywbeth gael ei wneud.
"Gallai Caitlin fod wedi methu 芒 dod drwy'r salwch pe bai ganddi gyflwr iechyd arall. Roedd hi yn yr ysbyty am dair wythnos, roedd hi'n ddifrifol wael - ar ba bwynt ydych chi'n newid pethau?
"Rhaid bod ffyrdd o ailgyfeirio d诺r glaw.
"Mae angen amddiffyn ein d诺r, ein hiechyd a'n lles.
"Dw i ddim wedi bod yn 么l yn y m么r ers hynny. Cefais fy magu yn Sir Benfro, yn nofio yn y m么r. Mae'n teulu ni'n dod o gefndir pysgota, ac mae'n rhan o bwy ydyn ni.
"Dwi'n teimlo bod hynny wedi'i sbwylio ac mae diffyg parch at yr amgylchedd."
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran D诺r Cymru: "I fod yn glir, rhoddwyd rhybuddion ar y traeth ar y pryd gan yr awdurdod lleol oherwydd gollyngiad o system garthffosiaeth preifat, ac nid o'n system ni.
"Oherwydd y tywydd gwlyb eithriadol yn yr ardal ar y pryd, fe arllwysodd ein system gorlif carthion cyfun (GCC) yng Nghilgeti, ond mae hwn wedi ei leoli yn fewndirol o Pont-yr-诺r. Fe weithredodd yr orlif fel ag y dylai pan mae'r system yn yr ardal yn orlawn oherwydd llif y glaw ynddo. Roedd yr arllwysiad yn cyd-fynd 芒'n trwydded gweithredol.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb o weithredu Gorlifon Carthion Cyfun o ddifri, ac yn gwerthfawrogi fod gan bobl bryderon pan fyddent yn weithredol. Ond mae'n werth nodi fod gan Gymru draean o fflagiau glas y Deyrnas Unedig er gwaethaf mai dim ond 15% o'r forlin sydd wedi ei leoli yma, ac yn ddiweddar dyfarnwyd 99% o dd诺r ymdrochi Cymru yn dda neu yn rhagorol."