大象传媒

3 llun: Lluniau pwysicaf Elan Elidyr

  • Cyhoeddwyd
ElanFfynhonnell y llun, Elan Elidyr

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Yr wythnos yma, y ddawnswraig Elan Elidyr sydd yn rhannu ei hoff lluniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o'r lluniau sydd yn golygu fwyaf iddi.

Ffynhonnell y llun, Elan Elidyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elan gyda'i ffrindiau, Lois, Elin, Gwawr a Dylan

"Dyma fi a pedwar o'm ffrindiau pennaf yng Nghaeredin, fis Medi llynedd. Mi'r ydw i wedi bod yn ffrindie efo Lois ers i'r ddwy ohonon ni fod yr unig ddwy ferch yn ein blwyddyn ni yn ysgol Talybont. Unwaith gyrraeddon ni Ysgol Penweddig, 'nathon ni gwrdd 芒'r tri arall, ac ers hynny mi'r ydym ni wedi bod yn ffrindiau oes!

"Er ein bod ni wedi bod yn ffrindiau ers bod ni'n 11 oed, hwn oedd y gwyliau cyntaf i ni gael efo'n gilydd, fel pump - yn 25 oed!"

Ffynhonnell y llun, Elan Elidyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Traeth Ynyslas, un o hoff lefydd Elan

"Pan o'n i'n ifanc o'n i'n cymryd Ynyslas yn ganiatol, ddim yn gweld faint mor brydferth oedd y lle a ddim yn sylwi gymaint o dawelwch sydd yna!

"Fi'n cofio mam a Ruth yn mynd a fi, Jeno a Mari yn aml ac yn dweud "ni mor lwcus i fyw mewn lle mor brydferth" - o'n ni'n arfer diflasu ar hynny, ond erbyn hyn fi'n deall ac yn cytuno hefo nhw! Hefyd, mae'n anodd iawn trio dewis un llun o Ynyslas, pan mae gen i gannoedd ar fy ff么n."

Ffynhonnell y llun, Elan Elidyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elan yn Munich, lle'r oedd yn byw am gyfnod

"Mi o'n i'n ddigon lwcus i gael astudio dawns yn Munich, Yr Almaen am dair blynedd. Mi ges i fod yn rhan o ddiwylliant gwahanol, cael profiadau bythgofiadwy a chwrdd 芒 ffrindiau am oes, ac mi wnes i ddysgu llawer am ddawns.

"Nes i ddysgu i fyw mewn gwlad arall, ac mi ges i hiraeth am yr iaith Gymraeg cyn hiraeth am fy nheulu a ffrindiau (sori mam a dad!).

"Dwi'n teimlo'n fwy lwcus byth gan bod Brecsit yn golygu fyddai hi llawer anoddach trio mynd yn 么l nawr! Diolch i rhain am neud Munich yn le mor dda i fyw."