'Wnes i erioed feddwl fyswn i'n chwarae Wayne Rooney!'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

"Fel actor ti yn meddwl pwy fysat ti'n gallu ei actio; wnes i erioed feddwl fyswn i'n chwarae Wayne Rooney!"

Mae'r actor Dion Lloyd o Borthmadog wedi bod yn byw a bod y p锚l-droediwr oedd yn un o s锚r Manchester United a Lloegr yn y 2000au ers cael rhan yn ei bortreadu yn nrama Channel 4, Rooney v Vardy: A Courtroom Drama.

Fe wnaeth yr achos llys rhwng gwraig Rooney, Coleen, a Rebekah Vardy, hoelio sylw fis Mai 2022 wedi i Rooney gyhuddo Vardy o werthu ei straeon Instagram i'r papurau a Vardy yn ei thro yn mynd a Rooney i'r llys am enllib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd Wayne Rooney yn cefnogi ei wraig yn yr achos llys

Fel hogyn ifanc yn Port oedd yn cefnogi Lerpwl ond ag edmygedd mawr tuag at Rooney yn Manchester United fedrai Dion ddim dychmygu y byddai rhyw ddydd yn actio'r p锚l-droediwr ar deledu.

"Oedd na lot i feddwl amdano fel actor Cymraeg sy'n chwarae rhywun o Lerpwl sy'n syportio Everton ond wnaeth chwarae i Man U!" meddai.

Mae'r ddrama-ddogfen mewn dwy ran ac yn dilyn mwy neu lai yr union eiriau ddywedwyd yn yr achos uchel-lys oedd yn llenwi colofnau'r papurau tabloid ar y pryd.

Mae'n deg dweud mai Coleen (Chanel Cresswell) a Rebekah Vardy (Natalia Tena) yw s锚r y sioe hon ond daw moment fawr Dion yn yr ail bennod pan mae Wayne yn cael ei alw i roi tystiolaeth.

Gweld wyneb Rooney wrth gysgu a deffro!

Roedd rhaid i Dion ddysgu osgo ac acen Lerpwl Rooney ac fe wnaeth hyn drwy wylio popeth roedd yn gallu cael gafael arno ar y we.

"O'n i'n gwylio bob un o'i post match talks ar 么l gemau a gweld sut mae'n siarad... nes i weld documentary amdano fo - Rooney ar Amazon - oedd hwnna'n ffordd dda i'w weld o tu 么l i'r camera - efo'i deulu a'i berthynas efo Colleen; oedd hwnna'n help mawr.

Ffynhonnell y llun, channel 4

Disgrifiad o'r llun, Dion fel Wayne Rooney gyda Chanel Cresswell yn actio ei wraig

"O'n i'n gwrando a gwrando arno fo. O'n i'n cau fy llygaid ac yn gweld gwyneb Wayne Rooney pan o'n i'n mynd i gysgu a pan o'n i'n deffro!

"Ac o'n i'n gorfod newid y ffordd ydw i - mae pawb efo'i mannerisms gwahanol - dwi'n eitha' siaradus, a deud y lleiaf, a dydi o ddim, so o'n i'n gorfod mynd oddi wrth hynna."

"Nes i bigo tri peth mae o'n wneud, yn gorfforol: o'n i'n sylwi bob tro mewn cyfweliad ei fod bob tro yn edrych i'r chwith i ateb; o ran ei wefusau, mi roedd o'n llyfu ei ddannedd; ac efo'r llais - nid dim ond yr acen ti'n gorfod meddwl amdano ond mae ton y llais yn bwysig iawn - oedd na lot i weitho arno fo."

O ran yr acen, roedd wedi gwneud ei waith cartref ac roedd ganddo hyfforddwr acenion ar y set yn ei helpu, ond roedd y ffaith ei fod o ogledd Cymru yn help hefyd.

"Dydi gogledd Cymru ddim mor bell i ffwrdd o Lerpwl... mae'r ffordd rydyn ni'n siarad Saesneg yn y gogledd yn agos at Gaer a Lerpwl dwi'n meddwl; ond roedd o'n dal yn sialens."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wedi ymddangos ar gyfresi fel Craith ac yn fwy diweddar Y Golau, mae Dion wedi bod yn hoffi dynwared pobl ers pan oedd yn fach ac mi gafodd gyfle i chwarae gydag acenion gwahanol yn y gyfres gomedi i blant ar Stwnsh, S4C, Cacamwnci.

"Ond mae'n fwy o gyfrifoldeb i chwarae rhywun go iawn," meddai, "ti'n gorfod eu parchu nhw; ti ddim yn ei wneud o fel caricature ti'n gorfod 'neud o fel person iawn a nes i fynd mewn i'r cymeriad mewn ffordd sensitif a difrifol."

Gweithio gyda Michael Sheen

Cafodd Dion ddigon o gyfle i eistedd yn gwylio ei gyd-Gymro Michael Sheen wrth ei waith yn actio bargyfreithiwr Coleen Rooney.

Ffynhonnell y llun, channel 4

"Pan nes i glywed ei fod o yn y prosiect oedd o bach yn swreal. O'n i ddim yn coelio fo achos dwi di edrych fyny iddo fo ers gymaint - mae o'n un o actorion gorau ei genhedlaeth o ran cymeriadau - i fi actio fel cymeriad efo fo, oedd o'n benchmark i be dwi wedi ei gyflawni yn fy ngyrfa - nod bach [i ddangos] mod i wedi gwneud yn OK.

"Oedd o'n bleser ei weld yn gweithio a dod i'w adnabod o, dim jyst Michael Sheen ond yr holl gast - Chanel Cresswell, sy'n chwarae ngwraig i, oedd hi'n anhygoel i weithio gyda, a Natalia Tena a Simon Coury, [bargyfreithiwr Vardy]."

Oes ganddo fo farn ar yr holl achos?

"Ar y pryd o'n i ddim yn dilyn yr achos - yn amlwg o'n i wedi clywed amdano fo - ond wrth ffilmio o'n i mond yn gweld drwy lygaid Wayne Rooney, dim fi fy hun - ro'n i yno i gefnogi fy ngwraig. Dydi o ddim am Wayne Rooney, mae o am Coleen a mae Wayne Rooney yna i supportio ei wraig, a dyna beth wnaeth o."

Ffynhonnell y llun, channel 4

Disgrifiad o'r llun, Fe amddiffynnodd Coleen Rooney ei hachos yn y llys yn llwyddiannus ac fe gollodd Vardy yr achos

Wedi dechrau ar ei yrfa yn astudio cwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai, yna Prifysgol y Drindod Dewi Sant, mae Dion yn byw yn Llundain bellach ers iddo symud yno i astudio gradd uwch gyda'r Royal Central School of Speech and Drama.

Felly beth mae'n obeithio ei wneud nesa'?

"Ti byth yn gywbod be ti'n neud nesa fel actor; un diwrnod ti'n bwyta brecwast a ti'n cael phone call am audition i chwarae Wayne Rooney. Ti byth yn gwybod be sy'n digwydd nesaf!"

Mae Vardy V Rooney: A Courtroom Drama yn dechrau am 9pm nos Fercher 21 Rhagfyr ar Channel 4, gyda'r ail bennod y noson wedyn ar 22 Rhagfyr.

Hefyd o ddiddordeb: