Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder arian yn 'cyfyngu ar annibyniaeth' myfyrwyr
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi gweld "cynnydd sylweddol" yn nifer y ceisiadau am arian o'u cronfeydd caledi.
Dywedodd pennaeth campysau Llambed a Chaerfyrddin, Gwilym Dyfri Jones, bod myfyrwyr "yn holi am fwy o gyllid, am fwy o gymorth yng nghyd-destun iechyd meddwl".
Ac yn 么l un myfyriwr mae pryder am arian yn cyfyngu ar eu hannibyniaeth.
Dywed Ffion Anderson, 21, sy'n astudio addysg ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, fod costau uwch yn cyfyngu ar gyfleoedd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn teithiau a chlybiau.
"Mae'r cyfnod yn y brifysgol i fod yn gyfnod o ddatblygu annibyniaeth a hefyd yn gyfnod o fwynhau. Mae'n gyfnod o ddatblygu fel unigolyn," meddai.
"Ond dwi'n teimlo, ac mae nifer o fyfyrwyr eraill yn teimlo, fel bod y broblem ariannol yma wedi cyfyngu ar sut y'n ni'n gallu datblygu annibyniaeth."
'Gwasgu'n drwm ar feddyliau'
Mae'r brifysgol wedi ymestyn y ddarpariaeth lles ac iechyd meddwl yn ogystal 芒 chymryd camau ymarferol fel rhewi costau llety a chynnig mwy o brydau rhad.
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones fod y brifysgol yn darparu ystod o wasanaethau drwy'r flwyddyn.
Ond yn sgil y costau ychwanegol, meddai, "'da ni wedi gorfod canolbwyntio, er enghraifft, ar ddarparu gwasanaeth arlwyo penodol i'n myfyrwyr ni a gostwng costau".
Bydd rhai myfyrwyr yn aros yn y coleg dros y Nadolig, a fyddan nhw'n cael cinio Nadolig, adloniant ac "anrheg fach" hefyd.
Ond myfyrwyr sydd hefyd yn rhieni sy'n gweld cyfnod y Nadolig yn arbennig o anodd.
Yn 么l Delyth Lewis, sy'n rheolwr yn nh卯m cymorth ariannol y brifysgol, mae "canran uchel iawn" o'u myfyrwyr yn h欧n gyda theuluoedd a chartrefi i'w cynnal oddi ar y campws.
"Mae Nadolig yn gwasgu'n drwm ar feddyliau rhai ohonyn nhw," meddai, gan fod y drefn cyllid myfyrwyr yn talu ar ddechrau pob tymor, felly fydd y swm nesaf ddim yn cyrraedd tan y flwyddyn newydd.
"Mae lot ohonyn nhw'n dweud bo' nhw'n gofidio am dalu am fwyd dros gyfnod y Nadolig ac am wresogi eu cartrefi tra bod y plant adre oddi wrth yr ysgol a prynu anrhegion ar gyfer y plant hynny hefyd."
Yn ddiweddar, mae'r brifysgol wedi cyflwyno mesurau newydd yn y ffreutur.
"Mae 'na gyfle i fyfyrwyr brynu cawl gyda bara menyn a caws am bunt bob dydd. Mae 'na bantri bwyd hefyd," meddai Delyth Lewis.
"Mae 'na gyfle i fyfyrwyr sydd methu prynu bwyd i ddod i gasglu nwyddau fan hyn heb ofyn - croeso iddyn nhw gerdded lan a chymryd beth mae angen arnyn nhw."
'Dyw e ddim yn ddigon'
Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, bod prifysgolion ledled y wlad yn gweithio law-yn-llaw gyda myfyrwyr sy'n cael trafferthion ariannol.
"Mae hyn wedi cynnwys cynyddu'r gronfa ar gyfer caledi ac ehangu'r nifer sy'n gymwys, yn ogystal 芒 darparu mesurau ymarferol eraill, megis gweithdai addysg ariannol, mannau cynnes, a darparu bwyd am ddim," meddai.
Yn 么l Ffion Anderson, sydd wedi dewis byw adref tra'n astudio, mae'r benthyciad cynhaliaeth sy'n cael ei gynnig gan y llywodraeth yn llai o help nag o'r blaen oherwydd yr argyfwng costau byw.
"Dwi'n teimlo fel bod y benthyciad cynnal a chadw y'n ni'n cael wrth y llywodraeth ar hyn o bryd, gyda chostau popeth arall yn cynyddu, ddim yn ddigon.
"Mae rhai o'r myfyrwyr ar fy nghwrs i wedi penderfynu ddim byw yn y brifysgol oherwydd y costau.
"Erbyn bo' chi'n talu cost aros mewn llety yn y brifysgol does dim fawr ddim ar 么l gyda chi erbyn diwedd.
"Felly maen nhw 'di penderfynu teithio dros awr bob dydd bron yn yr wythnos pan fod darlithoedd 'mlaen - amser y'ch chi'n meddwl am y prisiau tanwydd a phethau mae fe'n mynd yn gostus iawn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan Gymru "y gefnogaeth fwyaf hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig" ond eu bod yn deall y pwysau ar fyfyrwyr oherwydd yr argyfwng costau byw presennol.
"Dylai unrhyw un sy'n cael trafferthion ariannol gysylltu 芒'u hundeb myfyrwyr neu wasanaethau cymorth myfyrwyr," meddai llefarydd.