Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hamperi Nadolig i deuluoedd mewn angen yn Abertawe
"Trio dod 芒 'chydig o lawenydd i fywydau pobl dros y 'Dolig."
Dyna fwriad criw o wirfoddolwyr o Abertawe, yn cynnwys rhai o s锚r y clwb p锚l-droed, wrth lenwi cannoedd o hamperi bwyd ar gyfer pobl sydd mewn angen.
Saith mlynedd yn 么l, fe ddechreuodd yr Aelod Seneddol lleol, Carolyn Harris, ap锚l o'r enw 'Mae gan bawb hawl' i helpu teuluoedd i fwydo'u plant dros gyfnod gwyliau ysgol.
Aeth hi ati i baratoi pecynnau bwyd a brechdanau yn ei chegin ei hun i drio helpu.
Erbyn hyn, mae'r ap锚l wedi tyfu'n sylweddol, ac yr wythnos hon, mae degau o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i baratoi a llenwi hamperi Nadolig mewn warws fawr ar gyrion Abertawe.
Mae nhw'n bwriadu cyrraedd miloedd o deuluoedd lleol.
Mae pob pecyn yn llawn gyda dros 24 o eitemau yn cynnwys cig a llysiau ar gyfer cinio, yn ogystal 芒 chraceri, bisgedi caws, teisen Nadolig a llu o nwyddau eraill.
"Popeth sydd angen arnoch chi i 'neud Nadolig yn Nadolig," dywedodd un o'r gwirfoddolwyr.
Ar noswyl Nadolig fe fydd y criw yn helpu i baratoi cinio Dolig ac yn dosbarthu prydau bwyd yn lleol "er mwyn rhannu ychydig o gariad".
'Diolch a Nadolig Llawen'
Mae hon yn ymdrech i'r gymuned yn gyfan, ac ymhlith y gwirfoddolwyr sy'n helpu y mae nifer o s锚r Clwb P锚l-droed Abertawe.
Mae Peter France, pennaeth elusen sefydliad y clwb yn dweud eu bod, fel clwb, eisiau "gweithio gyda phobl leol sydd mewn angen a helpu i wella eu bywydau".
Un o'r gwirfoddolwyr yw Sue Lewis a dywedodd ei bod yn "wych i fod yn rhan o hyn i gyd".
"Ma' hwn yn mynd i 'neud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd 芒 phlant y Nadolig hwn, mae e wir yn ffantastig, s'dim gair arall."
Dros y blynyddoedd mae'r galw am help wedi cynyddu, ac mae'r trefnwyr yn dweud bod mwy o alw eleni nag erioed o'r blaen oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae Sarah Swinglehurst wedi bod yn pacio hamperi ers 07:00 ac erbyn ganol p'nawn mae'n cyfaddef ei bod hi wedi blino, ond yn dweud fod yr ymdrech yn "werth chweil".
Eleni, mae'r gwaith wedi bod yn anoddach hefyd oherwydd bod costau bwyd wedi codi yn sylweddol.
"Mae'n anodd i lot o deuluoedd eleni," dywedodd Carolyn Harris.
"Ma' pobl wedi bod yn cysylltu 芒 ni dros y misoedd diwethaf wir yn becso eu bod nhw'n methu fforddio talu am fwyd a hefyd anrhegion Dolig ar gyfer eu plant. Ni hefyd wedi clywed gan bensiynwyr sy'n dweud bod nhw methu fforddio talu biliau trydan a hefyd prynu anrhegion.
"Dyw hynny ddim wedi digwydd o'r blaen."
Eleni fe fydd yr ap锚l yn cyrraedd 2,000 o deuluoedd ond mae y trefnwyr yn dweud y bydden nhw'n hoffi gwneud mwy, ond does gyda nhw ddim yr arian na'r adnoddau i wneud hynny.
Wrth baratoi i helpu'r gymuned dros y Nadolig mae gan y gwirfoddolwyr neges hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at y nwyddau i lenwi y parseli, sef "Diolch a Nadolig llawen!"