'Pwysau ar ben pwysau' i ffermwyr yn sgil costau uwch
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am ragor o gymorth i ffermwyr wrth i gostau amaethyddol gynyddu.
Wedi blwyddyn anodd, gyda chwyddiant yn effeithio'n waeth ar y sector amaethyddol na sawl sector arall, mae'r gaeaf yn benodol yn gyfnod heriol.
Yn 么l undeb NFU Cymru mae mwy a mwy o amaethwyr yn gadael y sector wrth iddyn nhw ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chostau uwch i fwydo'u hanifeiliaid.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig help ariannol drwy sawl ffynhonnell, tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod wedi cyflwyno toriadau treth tanwydd a threth ar werth sy'n helpu amaethwyr.
Ar ei fferm tu fas i Bow Street yng Ngheredigion mae Jams Morgan yn gofalu am ei fuches odro.
Fel arfer mae'r gwartheg yn treulio'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ar y caeau, ond am gyfnod bob gaeaf maen nhw o dan do.
Mae'r pwysau ariannol eleni yn golygu bod cadw stoc dan do yn ddrutach nag erioed.
"Chi'n s么n am lot mwy o arian yn mynd mas bob mis," dywedodd Jams Morgan.
"Chi wastad yn becso achos fi sy' wastad ola' i gael fy nhalu."
'Torri'n 么l ar gyflenwadau'
Dywedodd fod y llwyth diweddaraf o wrtaith a brynodd i'r fferm wedi costio 拢21,500 a'i fod wedi gorfod torri'n 么l.
"Ma' hwnna'n lot fwy o gynnydd," dywedodd Jams.
"Dy'n ni wedi torri'n 么l a ma' lla'th 'dyn ni'n cynhyrchu ar y fferm wedi cwympo o achos 'ny.
"Pan 'dw i 'di arwyddo contract am y bwyd dw i wedi prynu am y chwe mis nesa' a ma' fe lan o tua 拢250 y tunnell i tua 拢380 'wan, felly mae e wedi codi dipyn."
Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i sawl unigolyn a busnes trwy Gymru - gyda chwyddiant yn golygu bod costau nwyddau bob dydd ar gynnydd.
Ar hyn o bryd, mae lefel chwyddiant y Deyrnas Unedig yn 10.7%.
Ond mae ffermwyr yn wynebu costau uwch - gydag amcangyfrif bod chwyddiant amaethyddol yn 19.8%
Mae ffermwyr wedi gweld costau sawl adnodd elfennol i'w busnes yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn 么l ffigyrau gan AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth), undeb NFU Cymru a Defra, mae pris gwrtaith wedi codi 240% ers 2019.
Mae bwyd anifeiliaid wedi cynyddu 75% a thanwydd i ffermwyr i fyny 73%.
Mae'r pwysau ychwanegol yn golygu bod rhai ffermwyr yn gadael y diwydiant yn 么l NFU Cymru, ac mae'r angen am gymorth, meddent, gan y llywodraeth yn fwy nag erioed.
"Dw i'n credu bod cyfle gan y llywodraeth yn San Steffan drwy'r Bil Amaeth i ddefnyddio y pwerau sydd gyda nhw i ddod 芒 mesurau mewn i edrych ar y tegwch 'na tu fewn y gadwyn cyflenwi bwyd," dywedodd Dylan Morgan o NFU Cymru.
"Gyda Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, ni yn y broses o gyflwyno polisi amaeth newydd sy'n mynd i ddod mewn o 2025.
"Beth ni eisiau sicrhau yw bod cynhyrchu bwyd a diogelu faint o fwyd ni'n cynhyrchu yng Nghymru yn ganolbwynt i bolisi amaeth yn y dyfodol yng Nghymru."
Wrth i'r pwysau ar ffermwyr gynyddu, mae elusen amaethyddol Tir Dewi wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau gan bobl yn gofyn am gymorth.
"Mae e'n bwysau, ar ben pwysau, ar ben pwysau," dywedodd yr Hybarch Eileen Davies, sylfaenydd Tir Dewi.
"Dim ond hyn a hyn mae unrhyw un yn gallu ei gario, ac am y rheswm hynny, fi yn daer yn erfyn ar ffermwyr, codwch y ff么n 'na i ni.
"Ni 'ma yn barod i wrando arnoch chi ac i gynnig pa bynnag gymorth ag y fedrwn ni..."
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gyfnod "heriol iawn i sectorau" gan gynnwys y sector amaeth.
"Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi pecyn o gefnogaeth oedd werth mwy na 拢227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwydnwch yr economi wledig."
Dywedon bod rhagor o arian ar gael fel rhan o'r Cynllun Taliad Sylfaenol (CTS) eleni ac ar gyfer y flwyddyn nesaf.
"Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod yn barhaus i adolygu'r fethodoleg ariannu fferm a disodli, yn llawn, y cyllid y byddai Cymru wedi'i gael pe bawn wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu yn amlygu hyd yn oed yn fwy pa mor bwysig yw trosglwyddo i system newydd o gymorth fferm sy'n decach ac a fydd yn cefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, tra'n mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
"Dyna ein nod gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ddaw i rym o 2025."
'Cwbl ymwybodol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae cefnogi ffermwyr Prydain a'n cymunedau gwledig yn hynod bwysig i'r llywodraeth bresennol.
"Ry'n yn gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu ffermwyr yn sgil costau uwch yn enwedig ynni - dyna pam ein bod wedi cyflwyno mesurau fel dod 芒 thaliadau y Cynllun Taliad Sylfaenol yn gynt, gwella'r cynllun iawndal ffliw adar a gostwng TAW a threth tanwydd.
"Ry'n hefyd yn bwrw ymlaen 芒'n cynlluniau rheoli tir er lles yr amgylchedd ac fe fyddwn yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, rheolwyr tir a grwpiau amgylcheddol i edrych ar ffyrdd o wella ein polisi ffermio yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022