Banc bwyd Bangor yn brysurach y Nadolig hwn nag erioed

Disgrifiad o'r llun, Mae ymgyrch yr Eglwys yng Nghymru yn galw'n benodol am nwyddau hylendid i fanciau bwyd
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Roedd 2022 yn flwyddyn lle roedd yna bwysau sylweddol ar fanciau bwyd Cymru.

Yn dilyn cynnydd mewn costau byw mae mwy o bobl eto wedi dibynnu ar ganolfannau arbennig er mwyn osgoi cypyrddau gwag a chadw boliau teuluoedd yn llawn.

Ond yn 么l un banc bwyd mae tlodi hylendid hefyd ar gynnydd gydag ymgyrch arbennig gan yr Eglwys yng Nghymru yn galw ar eglwysi Cymru i gasglu nwyddau hylendid dros yr 诺yl.

Tu cefn i Gadeirlan Bangor mae 'na fyddin o wirfoddolwyr yn llenwi bagiau gyda phob math o fwydydd.

Y pethau hanfodol - bara, menyn, ffrwythau a llysiau, ond hefyd bwyd i godi gw锚n dros y Nadolig fel bisgedi a siocled.

Hanner awr ar 么l agor eu drysau mae'r llif o bobl yn cyrraedd ac yn gofyn am barseli bwyd brys yn ddi-ben-draw.

"Fel 'ma fydd hi tan inni gau," meddai un o'r gwirfoddolwyr.

Gyda chwyddiant, cost nwyddau, wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers deugain mlynedd, mae'r banc bwyd yma wedi bod o dan bwysau wrth brofi cynnydd yn y defnydd o 100%.

Disgrifiad o'r llun, 'Un o'r pethau bach mwy anweledig ydi'r ffaith bod pobl yn colli'r ffordd i edrych ar 么l eu hunain,' medd yr Archesgob Andrew John

"Ar un lefel mi ydan ni'n falch iawn o be 'da ni'n neud ond ar lefel arall mae'n anffodus," meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John.

"Mae'n drist iawn ein bod ni'n dibynnu ar fanciau bwyd ac yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

"Dyma ddiwrnod arferol - mae'n digwydd bron bob dydd," meddai.

Ond dim ond bwyd sy'n cael ei ddosbarthu yma.

Dan faner eu hymgyrch "Bwyd a Thanwydd", mae'r Eglwys yng Nghymru wedi gosod her i eglwysi Cymru i greu pecynnau hylendid - casglu nwyddau fel sebon, darpariaeth mislif a siamp诺 er mwyn mynd i'r afael 芒 thlodi hylendid.

"Dan ni'n trio sicrhau bod pobl hefo'r pethau normal," meddai'r Parchedicaf Andrew John.

"Pethau i ymolchi, sanitary towels, ac yn y blaen.

"Un o'r pethau bach mwy anweledig ydi'r ffaith bod pobl yn colli'r ffordd i edrych ar eu h么l - felly 'dan ni'n falch i ddarparu bwyd, ond hefyd rhai pethau fel hyn."

Mae'r ganolfan ym Mangor yn f么r o fagiau - oll wedi eu llenwi a'u pwyso i gynnwys bwyd a maeth i deuluoedd.

Yr wythnos brysuraf ers 10 mlynedd

Yn gweithio'n ddiwyd mae'r gwirfoddolwyr.

"Yn yr wythnos cyn y Nadolig, mae'n ffigyrau ni wedi dyblu," meddai un gwirfoddolwr wrth lenwi bagiau a'u dosbarthu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd wythnos cyn Nadolig eleni yn hynod o brysur y manc bwyd Bangor, medd Robert John

Mae Robert John yn gynorthwy-ydd i'r Archesgob ac yn gwirfoddoli yn y banc bwyd.

"Dwi'n gwybod yr wythnos diwethaf mi oedd hi'r wythnos fwyaf prysur i'r banc bwyd ei chael erioed, ac mae'r banc bwyd wedi bod yma ers 10 mlynedd," meddai.

"Mae'n eithaf trist mewn ffordd ond yn dda bod ni'n gallu cynnig rhywbeth yn 么l i bobl.

"Ma'n bwysig bod ni'n gallu rhoi rhywbeth ychwanegol adeg yma'r flwyddyn - mae'r adeg yma'n ddigon anodd i bobl beth bynnag".

Mae'r banc bwyd yma ym Mangor yn enghraifft o'r ymdrech sy'n digwydd yn genedlaethol i herio'r argyfwng costau byw drwy lenwi boliau a sicrhau fod gan bawb nwyddau i gadw'n l芒n.

Mae'n enghraifft o'r cymorth sydd ar gael ond hefyd yn ddrych o'r heriau sy'n wynebu cymaint dros yr 诺yl.