大象传媒

Gwahoddiad i bobl fod yn 'dditectifs siarcod'

  • Cyhoeddwyd
Morgi mawr gwynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna wahoddiad i wirfoddolwyr helpu adnabod siarcod ar hyd arfordir Cymru - o foethusrwydd eu cartrefi eu hunain.

Mae cynllun yn chwilio am "ddinasyddion wyddonwyr" i nodi siarcod, morgathod a sglefrynnau sy'n cael eu gweld ar dros 90 awr o luniau camer芒u tanddwr.

Bydd y data'n helpu cadwraethwyr i greu darlun cliriach o amrywiaeth y rhywogaethau yn nyfroedd arfordirol Cymru.

Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn ganlyniad cydweithio rhwng Cymdeithas S诺olegol Llundain (ZSL), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a phobl sy'n byw ac yn gweithio ar hyd arfordir Gwynedd.

Trwy haf y llynedd fe gafodd rhywogaethau prin sydd mewn perygl, eu ffilmio gan gamer芒u tanddwr mewn ardal warchodaeth arbennig oddi ar Benrhyn Ll欧n .

Ffynhonnell y llun, ZSL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r morgi glas, sydd mewn perygl, wedi dod i'r amlwg yn sgil y cynllun

Ymchwilwyr yn unig sydd wedi gweld y lluniau hyd yn hyn ond mae'n bosib erbyn hyn i unrhyw un eu gweld trwy'r wefan Instant Wild.

Bydd gofyn i'r gwyddonwyr siarc amatur nodi'r mathau o siarcod, morgathod a sglefrynnau maen nhw'n eu gweld, gan arbed amser ac ymdrech i'r ymchwilwyr.

Dywedodd Joanna Barker o ZSL: "Bydd gwyddonydd yn adolygu'r holl luniau ond y gwyddonwyr dinasyddol fydd yn eu dilysu.

"Byddwn ni'n gallu cymharu sg么rs a data'r ddau a bydd yn gwella'r data wyddonol y gawn ni o'r prosiect yma."

Ffynhonnell y llun, ZSL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l cydlynydd Prosiect SIARC, Jake Davies dydy pobl ddim yn ymwybodol bod yna siarcod oddi ar arfordir Cymru

Un o Ben Ll欧n yw cydlynydd Prosiect SIARC, Jake Davies, sy'n gosod y camer芒u tanddwr.

Mae criwiau pysgota lleol wedi helpu iddo ddod o hyd i'r ardaloedd mwyaf bywiog ac mae'n dweud bod y lluniau wedi datgelu amgylchedd gudd.

"Bob tro 'dan ni'n deud bod ni'n astudio siarcod, mae llawer o bobol yn synnu bod yna siarcod oddi ar arfordir Cymru," meddai.

"Ond mae Cymru'n cartrefu ystod eang o rywogaethau siarc - mwy na 25 mewn gwirionedd, o un o'r rhai mwyaf prin, y maelgi (angel shark) i un o'r rhai mwyaf, sef y heulforgi (basking shark)."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwirfoddolwr Matt Thomson wedi cymryd at y prosiect yn arw

Mae'r gwirfoddolwr Matt Thomson wedi bod yn cofnodi bywyd gwyllt trwy'r app Instant Wild ers 10 mlynedd ac mae wrth ei fodd yn edrych ar y lluniau yn y gobaith o weld rhywogaethau prin.

"Hoffwn i wir weld maelgi," meddai. "Dyna holl bwrpas y prosiect - maen nhw'n brin iawn.

"Byswn i'n synnu os fysan ni yn gweld rhai a fyswn i'n gyffrous os faswn i'n gweld heulforgi.

"Ond mae yna ddigon o bethau eraill i'ch diddori - mae unrhyw siarc neu forgath 'dach chi'n eu gweld ar y camer芒u 'ma yn ddifyr iawn."

Pynciau cysylltiedig