Aled Glynne Davies: Ap锚l wedi diflaniad cyn-olygydd Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae teulu cyn-olygydd 大象传媒 Radio Cymru, Aled Glynne Davies wedi apelio am help i ddod o hyd iddo.
Yn 么l ap锚l sydd wedi ei rhannu gan Heddlu De Cymru, fe gafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna, Caerdydd am 23:30 nos Galan.
Dywedodd ei deulu mewn ap锚l brynhawn Sul ei fod "ar goll ac angen tabledi ar frys".
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi llun ohono yn yr un got werdd yr oedd yn ei gwisgo nos Sadwrn.
Tua chwe throedfedd o daldra ac yn 65 mlwydd oed, mae'n bosib yr oedd hefyd yn gwisgo het werdd dywyll.
Bu cannoedd o bobl yn helpu gyda'r chwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Llun.
Mae Heddlu De Cymru gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314, os ydyn nhw'n amau eu bod wedi ei weld neu 芒 unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.