Pentir: Gwrthod cais i droi'r Vaynol Arms yn llety gwyliau

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Roedd Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio i drosi'r Vaynol Arms i lety gwyliau
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio achub tafarn wledig wedi croesawu gwrthodiad cais cynllunio i'w droi yn llety gwyliau.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais i droi llawr gwaelod y Vaynol Arms ym Mhentir ger Bangor i ddwy uned gwyliau.

Ond bellach mae swyddogion y cyngor wedi gwrthod y cais yn sgil pryderon nad oes digon o dystiolaeth wedi'i gyflwyno nad yw'r busnes yn hyfyw.

Dywedodd perchennog y dafarn wrth Cymru Fyw ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

'Diffyg tystiolaeth eglur'

Bwriad Duncan Gilroy, a brynodd y dafarn yn Ebrill 2021, oedd trosi'r adeilad i ddefnydd llety gwyliau.

Dywedodd wrth Cymru Fyw fis Hydref ei fod wedi bod yn barod i drafod gydag unrhyw un oedd 芒 diddordeb yn ei redeg fel tafarn, ond nad oedd wedi clywed dim am chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y perchennog Duncan Gilroy fod misoedd wedi mynd heibio heb iddo glywed gan y gymdeithas

Ond wedi cyflwyno'r cais cynllunio, penderfyniad swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd oedd nad oes digon o dystiolaeth wedi'i gyflwyno na all yr adeilad barhau i weithredu fel tafarn.

Yn yr adroddiad cynllunio dywedodd y swyddogion bod (a chyn hynny) ac na ellir ei werthu/osod fel cyfleuster a allasai fod yn hyfyw yn y dyfodol".

Gyda'r cais hefyd wedi'i wrthwynebu gan y cyngor cymuned leol, ac "wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r holl faterion cynllunio perthnasol", ychwanegon nhw "nad oes opsiwn felly ond gwrthod y cais ar sail diffyg gwybodaeth ynghylch y materion a'u hamlygir yn yr asesiad".

'Barod i drafod'

Dywedodd Mr Gilroy ei fod yn siomedig gyda phenderfyniad y cyngor ac mai ei fwriad ydy i lansio ap锚l.

"Rwyf wedi cynnig lles i redeg y busnes tafarn ar delerau ffafriol ond does yr un cynnig pendant wedi dod i law," meddai wrth Cymru Fyw.

"Tydi hi ddim yn gyfnod da i dafarndai, hyd yn oed yn y trefi, ond rwyf wedi bod yn hollol agored fy mod yn barod i drafod.

"Byddaf angen darllen y manylion yn dilyn y gwrthodiad cynllunio, ond fy mwriad ydy apelio."

Disgrifiad o'r llun, Cefin Roberts: "'Da ni'n teimlo nad oes ymdrech wedi bod o ddifri' i drio cael tenant yna"

Ond yn 么l Cefin Roberts, aelod o'r gr诺p sy'n ceisio achub y Vaynol Arms, mae'r datblygiad yn un calonogol i'w hymgyrch.

"Mae'n bentref hynod o ddel ond does 'na ddim adnoddau cymunedol yma o gwbl heblaw am y dafarn, yn wahanol i ardaloedd fel Glasinfryn, Rhiwlas a Thregarth, er enghraifft, sydd gyda neuaddau eu hunain," meddai.

"Ar un amser oedd y Vaynol yn dafarn llewyrchus iawn."

Ond er dyhead i brynu'r dafarn gan ei gyn-berchnogion, dywedodd fod y cyfnod clo wedi gwneud hi'n anodd cynnal cyfarfod er mwyn trafod y posibiliadau.

"'Da ni'n teimlo nad oes ymdrech wedi bod o ddifri' i drio cael tenant yna, dwi'n gwybod fod hi'n adeg anodd i dafarndai ond mae gynnon ni gymuned gref yma sy'n gefnogol o'i gilydd.

"Mae Pentir yn lle bach da i fyw, mae hon yn frwydr gymunedol.

"Dwi'n croesawu'r penderfyniad, mae gynnon ni hen ddigon o AirBnBs, maen nhw'n cymryd drosodd ac maen nhw'n glwyf i amryw o gymuned fach.

"Dwi'n si诺r fydd pawb ym Mhentir yn croesawu unrhyw arwydd o wrthwynebiad."