Penderfyniad ar fwyngloddio copr ym M么n erbyn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae 'na obaith o'r newydd y gallai copr gael ei fwyngloddio ym M么n.
Dangosodd arolwg diweddar fod mwy o fwynau ar safle yng ngogledd yr ynys na chredwyd gynt.
Yn ystod y 18fed ganrif roedd Mynydd Parys ger Amlwch yn allforio copr i ben draw'r byd - amcangyfrifir i 3.3 miliwn tunnell o gopr gael ei allforio.
Yn 么l perchenogion y safle, Anglesey Mining mae archwiliadau diweddar wedi dangos cronfeydd mawr o gopr a sinc a hynny yn fwy na'r disgwyl.
Mae'r cwmni'n dweud os bydd archwiliadau pellach yn ffafriol fe allai penderfyniad ar ddatblygiad y safle gael ei wneud mor gynnar 芒 dechrau 2024.
Canfod aur ac arian
Mae gan Fynydd Parys un o gronfeydd copr mwyaf Prydain sydd eto i gael ei gloddio ymhellach.
Fe gafodd mwynau fel sinc, aur ac arian hefyd eu canfod ac yn 么l prif weithredwr Anglesey Mining, Jo Battershill, mae'r safle yn cynnig addewid i'r ardal.
Mae'n dweud y gallai swyddi hefyd gael eu creu ar gyfer pobl leol pe bai archwiliadau pellach yn gadarnhaol.
"Dwi'n croesawu'r newyddion," medd cynghorydd lleol yr ardal, Aled Morris Jones.
"Dwi'n gobeithio bydd y newyddion da yn parhau, dwi'n ffyddiog a ma' hwn yn bositif - 'da ni heb glywed newyddion positif yn dod o'r mynydd ers blynyddoedd.
"Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir."
Gyda'r gobaith o swyddi erbyn canol y ddegawd, dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hi'n bwysig i'r gymuned leol hefyd weld budd.
Mae caniat芒d cynllunio wedi ei gadarnhau ar gyfer y safle ond bydd angen sicrhau caniat芒d pellach, archwiliadau amgylcheddol a chyllid pellach.
Yn 么l y cwmni fe fydd unrhyw waith pellach yn cael ei wneud dan dir ac fe fydd y safle dal ar gael i gerddwyr archwilio'r ardal fel sy'n boblogaidd.
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor M么n fod gan y safle "bwysigrwydd hanesyddol o ran mwyngloddio".
"Rydym yn gefnogol mewn egwyddor, o ailddechrau gweithgareddau mwyngloddio yno - yn amodol ar gydymffurfiaeth o gloddfa gyda safonau amgylcheddol uchel a sicrhau buddion i'r gymuned leol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017